Cysylltu â byd natur ar garreg eich drws yn rhoi hwb i iechyd a lles, yn ôl arolwg cyn her 30 Diwrnod Gwyllt

Cysylltu â byd natur ar garreg eich drws yn rhoi hwb i iechyd a lles, yn ôl arolwg cyn her 30 Diwrnod Gwyllt

Y cyflwynydd teledu Liz Bonnin yn annog pobl i ‘syrthio mewn cariad unwaith eto â byd natur’ yn ystod mis Mehefin

Mae pôl newydd a gynhaliwyd ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur wedi datgelu bod mwy na hanner y rhai a ymatebodd wedi dweud bod cysylltu â byd natur drwy wrando ar gân adar, clywed gwenyn yn suo, a gweld ac arogli blodau gwyllt yn fuddiol i'w hiechyd a'u lles.

Cynhaliwyd pôl Savanta1 cyn her 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaethau Natur, sy'n digwydd ledled Gogledd Cymru yn ystod mis Mehefin ac yn galw ar bobl i fwynhau llawenydd y byd naturiol drwy gydol y mis, a thrwy gyfres wythnosol o weithgareddau thema hwyliog eleni.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae 30 Diwrnod Gwyllt wedi denu mwy na thair miliwn o gyfranogwyr ledled y DU ac wedi helpu pobl i fynd allan, mwynhau a chysylltu â byd natur fel rhan o’u bywydau bob dydd.

Eleni, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn annog cymaint o unigolion, teuluoedd ac ysgolion â phosibl i gymryd rhan, ac rydym wedi trefnu digwyddiadau drwy gydol mis Mehefin ac ar draws y rhanbarth, gan gynnwys ‘Bioblitz’ yng Ngwarchodfa Natur Graig Wyllt, taith gerdded blodau’r gwanwyn yn Chwarel y Mwynglawdd ger Wrecsam a’r Cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd Mawr yng Ngwarchodfa Natur Caeau Tan-y-Bwlch.

Cofrestrwch yma

Gofynnodd y pôl newydd i fwy na 2,000 o bobl beth oeddent yn ei deimlo oedd o’r budd mwyaf i'w hiechyd, boed hynny'n gysylltu â byd natur lle roeddent yn byw; chwilio am natur a llecynnau gwyrdd; dysgu am fyd natur a bywyd gwyllt lleol; neu gael eu hysbrydoli'n greadigol gan fyd natur.

Tynnodd y mwyafrif (51%, 1,144) sylw at gysylltu â byd natur lle roeddent yn byw fel y ffordd orau o hybu eu hiechyd a'u lles. Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn rhoi cyfle i bobl sylwi ar fyd natur ar garreg eu drws.

Cadarnhaodd adborth gan gyfranogwyr her 30 Diwrnod Gwyllt yn 2024 ganfyddiadau'r pôl newydd hefyd, gan ddangos bod tri chwarter y rhai a gymerodd ran wedi nodi gwelliannau 

mewn iechyd meddwl a lles, gyda gweithgareddau fel treulio amser yn yr awyr agored, gwylio bywyd gwyllt, a chymryd rhan mewn arferion ymwybyddiaeth ofalgar yn arbennig o fuddiol.

Dywedodd Chris Baker, Rheolwr Ieuenctid a Chymunedau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn ein hatgoffa ni bod byd natur yno bob amser, ac yn y lleoliadau mwyaf trefol hyd yn oed – ac mae stopio i sylwi arno a’i werthfawrogi bob hyn a hyn yn ein helpu ni i deimlo’n hapusach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig â’r byd o’n cwmpas.

Liz Bonnin

Liz Bonnin (C) Andrew Crowley

Dywedodd Liz Bonnin, cyflwynydd teledu a llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Cysylltu â’r byd naturiol yw’r cam cyntaf i ofalu amdano a chwarae rhan yn ei warchod. Mae’n dechrau gyda’r pethau syml – gwrando ar gân yr adar yn y bore, ar wrychoedd yn llawn bywyd, neu oedi hyd yn oed i wylio’r cymylau’n symud ar draws yr awyr. Yn ystod mis Mehefin eleni, ymunwch â ni ar gyfer #30DiwrnodGwyllt gyda’r Ymddiriedolaethau Natur, a syrthio mewn cariad unwaith eto â byd natur.

“Byddaf yn rhoi eiliad i ymgolli ym myd natur – rydw i’n mynd i gerdded yn droednoeth yn y glaswellt, gwrando ar sŵn pryfed yn fy ngardd i, ac edrych i fyny ar ganopïau gwyrdd llachar y coed yn erbyn yr awyr las. Mae’r gweithredoedd bach ‘gwyllt’ yma’n eiliadau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda ac sydd nid yn unig yn ein hatgoffa ni pa mor gysylltiedig ydyn ni â byd natur, ond hefyd maen nhw’n ein hysbrydoli ni i’w warchod.

“Rydw i’n credu yn hud byd natur. Mae’n ein hiacháu ni, mae’n ein hysbrydoli ni ac yn ein hailgysylltu ni â’r hyn sydd wir yn bwysig mewn bywyd. Os nad ydych chi wedi cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt erioed o’r blaen, dyma’ch blwyddyn chi. Syrthiwch mewn cariad â’r blaned unwaith eto – un diwrnod gwyllt ar y tro.”

David Oakes

Image Credit: Eleanor Church

Disgrifiodd yr actor a llysgennad dros yr Ymddiriedolaethau Natur, David Oakes, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rannau mewn dramâu fel Victoria ac am ei bodlediad yn trafod byd natur, Trees a Crowd, 30 Diwrnod Gwyllt fel ‘uchafbwynt ei flwyddyn’.

Dywedodd: “Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn uchafbwynt i fy mlwyddyn i, ac yn fwy felly wrth i fy nheulu i dyfu a chymryd rhan fwy gweithredol. Mae’n gyfle gwych i bawb, yn enwedig y rhai sy’n newydd i fyd natur, gymryd rhan mewn gweithgareddau syml a hwyliog sy’n tynnu sylw at ba mor hawdd y gallwn ni gysylltu â’r bywyd gwyllt o’n cwmpas ni. Mae byd natur angen ein help ni yn fwy nag erioed ar hyn o bryd, felly cofrestrwch i ymuno â 30 Diwrnod Gwyllt ym mis Mehefin a helpu i wneud byd o wahaniaeth ar garreg eich drws!”

Cel Spellman

Cel Spellman

Dywedodd Cel Spellman, actor a llysgennad ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Rydw i wrth fy modd yn cysylltu â byd natur – rydw i’n ceisio gwneud ymdrech gydwybodol i wneud mwy o hyn a gwneud amser ar ei gyfer; i mi, mae’n hollbwysig. Felly, mae 30 Diwrnod Gwyllt yn gyfle anhygoel i wneud yn union hynny a rhoi’r hwb sydd arnom ni ei angen weithiau. Mae yna bethau bach y gall pawb eu gwneud i helpu bywyd gwyllt a byd natur lle bynnag maen nhw’n byw. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan gyda help canllawiau defnyddiol yr Ymddiriedolaethau Natur i wneud gwahaniaeth. Rydw i’n gwybod sut bydd fy 30 diwrnod i yn ystod mis Mehefin ac yn gobeithio y bydd eich rhai chi yr un fath hefyd!”

Rhiane Fatinikun

Dywedodd Rhiane Fatinikun MBE, eiriolwr gwych dros yr awyr agored, trefnydd cymunedol, a llysgennad ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Rydw i'n gyffrous am lansio her 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaethau Natur eleni. Mae'n gyfle perffaith i bobl sy'n newydd i fyd natur gofleidio ei fanteision anhygoel. Rydw i'n gwybod fy hun sut mae treulio dim ond pump neu ddeg munud y dydd yn yr awyr agored yn dod â thawelwch i mi a chyfle i  baratoi am y diwrnod. Rydw i'n credu'n gryf bod byd natur ar gyfer pawb, felly cofrestrwch nawr i ddarganfod y digwyddiadau a'r gweithgareddau hwyliog y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw drwy gydol mis Mehefin - i gefnogi bywyd gwyllt, ac i fywyd gwyllt eich cefnogi chi.”

Yn ystod yr her eleni, gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau thema penodol a hwyliog bob wythnos:

  1. Helpu byd natur lle rydych chi'n byw. Rhowch gynnig ar dyfu planhigion sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gadael bwyd a dŵr allan, neu adeiladu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt.
     
  2. Bod yn gorfforol gan feddwl am fyd natur. Chwiliwch am antur bob dydd drwy fynd am deithiau beicio lleol neu deithiau cerdded coetir newydd. Rhowch gynnig ar ioga bywyd gwyllt neu chwarae bingo synhwyraidd.
     
  3. Dysgu am y bywyd gwyllt anhygoel o'n cwmpas ni. Lawrlwythwch ein canllaw adnabod a gweld faint o greaduriaid y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw, ymunwch â sgwrs bywyd gwyllt a dysgu gan arbenigwyr, neu ddarllen llyfr am fywyd gwyllt.
     
  4. Bod yn greadigol gyda byd natur. Dechreuwch gadw dyddiadur natur, neu greu llun gwyllt gan ddefnyddio gwrthrychau sydd wedi cwympo.

Mae canllaw ysbrydoledig yn llawn syniadau ar gael i bawb sy'n cofrestru i gymryd rhan, yn ogystal â phaced am ddim o hadau perlysiau i ddechrau eich siwrnai natur. Wedi'i wneud yn bosibl diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, mae 30 Diwrnod Gwyllt yn annog pawb i gysylltu â byd natur. Gallai hyn gynnwys mynd ar saffari malwod, bwyta eich brecwast yn yr awyr agored, cau eich llygaid i wrando ar gân yr adar, gwneud ioga yn yr awyr agored neu ymdrochi yn y goedwig.

Cofrestrwch heddiw i sicrhau eich nwyddau, gan gynnwys eich hadau am ddim, a dechrau ar siwrnai sy'n addo nid yn unig mis, ond oes, o wylltineb i chi!

Cofrestrwch yma

Nodiadau i olygyddion

1Cyfwelodd Savanta 2,263 o oedolion yn y DU ar-lein rhwng 17 a 20 Ebrill 2025. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol o oedolion y DU yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd a rhanbarth. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Gofynnwyd i'r ymatebwyr raddio: Pa un ydych chi'n teimlo sydd fwyaf buddiol i'ch iechyd? Dywedodd 1,144 (51%) Cysylltu â byd natur lle rydw i'n byw - e.e., gwrando ar adar yn canu, clywed gwenyn yn suo, gweld ac arogli blodau gwyllt; dywedodd 860 (38%) Chwilio am fyd natur a llecynnau gwyrdd, e.e., drwy fynd am dro neu ymweld â gwarchodfa natur; dywedodd 138 (6%) Mynd ati’n rhagweithiol i ddysgu mwy am fyd natur a'r bywyd gwyllt o fy nghwmpas i; a dywedodd 122 (5%) Cael fy ysbrydoli'n greadigol gan fyd natur, e.e. drwy ddarlunio, paentio neu ffotograffiaeth.

Loteri Cod Post y Bobl

Mae arian yn cael ei godi gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl a'i ddyfarnu gan y Postcode Planet Trust.

www.postcodelottery.co.uk

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gwneud y byd yn wylltach ac yn helpu i sicrhau bod byd natur yn rhan o fywydau pawb. Rydyn ni’n fudiad ar lawr gwlad o 46 o elusennau gyda mwy na 910,000 o aelodau a 35,000 o wirfoddolwyr. Dim ots ble rydych chi ym Mhrydain, mae Ymddiriedolaeth Natur yn eich ardal chi sy’n ysbrydoli pobl ac yn achub, yn gwarchod ac yn sefyll dros y byd naturiol. Gyda chefnogaeth ein haelodau, rydyn ni’n adfer ac yn gofalu am fwy na 2,000 o lecynnau arbennig ar gyfer byd natur ar y tir ac yn cynnal prosiectau cadwraeth forol ac yn casglu data hanfodol am gyflwr ein moroedd. Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio o fewn ei chymuned leol i ysbrydoli pobl i greu dyfodol gwylltach - o gynghori miloedd o berchnogion tir ar sut i reoli eu tir er budd bywyd gwyllt, i gysylltu cannoedd ar filoedd o blant ysgol â byd natur bob blwyddyn. www.wildlifetrusts.org   

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Ein gweledigaeth ni yw ‘byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a phobl wedi’u grymuso i weithredu dros fyd natur’. Ni yw’r elusen flaenllaw yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymrwymo'n llwyr i warchod ein holl gynefinoedd a rhywogaethau, gyda mwy na 10,000 o aelodau. Rydym yn ymgyrchu dros warchod bywyd gwyllt a buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i sicrhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth well o fywyd gwyllt. Rydym yn gofalu am 35 o warchodfeydd natur sy'n ymestyn dros 750 hectar. Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ffoniwch 01248 351541 neu e-bostiwch info@northwaleswildlifetrust.org.uk www.northwaleswildlifetrust.org.uk