Canfu'r pôl, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026 gan yr Ymddiriedolaethau Natur a’i gynnal gan Savanta(1), fod y duedd bryderus hon hefyd yn cael ei hadlewyrchu gan y rhai a gyfwelwyd yng Nghymru. Er bod gan 88% atgofion cadarnhaol am dreulio amser yn yr awyr agored yn blentyn, dywedodd mwy na thraean (38%) o'r ymatebwyr eu bod bellach yn treulio tair awr yr wythnos neu lai yn yr awyr agored. Yng Nghymru, dywedodd 8.6% o bobl eu bod bellach yn treulio awr neu lai yr wythnos yn yr awyr agored.
Datgelodd yr arolwg gysylltiadau dwfn rhwng plentyndod a byd natur yng Nghymru:
- Treuliodd mwy na dwy ran o dair (69%) o bobl fwy na hanner eu hamser yn yr awyr agored fel plentyn
- Dywedodd 59% o'r bobl a holwyd eu bod yn fwy tebygol o ailgysylltu â byd natur ar ôl meddwl am eu hatgofion plentyndod
- Dywedodd 75% o'r rhieni y gofynnwyd iddynt gofio’n ôl am eu hatgofion plentyndod eu bod bellach yn dymuno annog eu plant eu hunain i gael plentyndod mwy naturiol
Mae cyfoeth o dystiolaeth eisoes i ddangos bod treulio amser ym myd natur yn hybu hapusrwydd, iechyd a lles. Mae'r pôl newydd yn datgelu cysylltiad cryf rhwng plentyndod a byd natur, gyda phobl yn cofio amseroedd hapus a dreuliwyd yn yr awyr agored ac yn dymuno'r un peth i'w plant. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod cyfran sylweddol o oedolion yn treulio ychydig iawn o amser ym myd natur bob wythnos yn destun pryder.
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur bellach yn bwriadu manteisio ar bŵer atgofion plentyndod cadarnhaol i helpu oedolion i fentro mwy allan i’r awyr agored. Mae'r elusennau'n galw ar bobl i 'ailwylltio eu plentyn mewnol' drwy gymryd rhan yn her 30 Diwrnod Gwyllt ym mis Mehefin.