Mae llawer o bobl sy’n hoff o fyd natur yn aros yn eiddgar am löynnod byw cyntaf y gwanwyn. Ond beth am y gwyfynod cyntaf? Does dim llawer o wahaniaeth rhwng gwyfyn a glöyn byw, ond dydi gwyfynod ddim yn cael yr un sylw bob amser. Efallai ei fod oherwydd bod llawer ohonyn nhw'n weithredol yn ystod y nos, pan maen nhw'n anoddach eu gweld - er mae posib gweld mwy na 150 o wyfynod y DU allan ac o gwmpas y lle mewn golau dydd.
Mae rhai gwyfynod wedi bod yn weithredol ers wythnosau eisoes, a’u tymor drosodd cyn i'r glöynnod byw ddechrau yn iawn. Mae eraill yn dechrau dod i'r amlwg nawr. Mae pob mis yn dod â gwyfynod newydd, felly mae rhywbeth i'w ddarganfod bob amser. Beth am i ni gwrdd ag ychydig o wyfynod rhyfeddol mis Mawrth!