Gwylio gwyfynod mis Mawrth

Gwylio gwyfynod mis Mawrth

Early grey © Vaughn Matthews

Mae llawer o gariadon natur yn aros yn eiddgar am y gloÿnnod byw cyntaf bob blwyddyn, ond beth am y gwyfynod cyntaf?
Darganfyddwch y pryfed sy’n hedfan yn gynnar yn y gwanwyn.

Mae llawer o bobl sy’n hoff o fyd natur yn aros yn eiddgar am löynnod byw cyntaf y gwanwyn. Ond beth am y gwyfynod cyntaf? Does dim llawer o wahaniaeth rhwng gwyfyn a glöyn byw, ond dydi gwyfynod ddim yn cael yr un sylw bob amser. Efallai ei fod oherwydd bod llawer ohonyn nhw'n weithredol yn ystod y nos, pan maen nhw'n anoddach eu gweld - er mae posib gweld mwy na 150 o wyfynod y DU allan ac o gwmpas y lle mewn golau dydd.

Mae rhai gwyfynod wedi bod yn weithredol ers wythnosau eisoes, a’u tymor drosodd cyn i'r glöynnod byw ddechrau yn iawn. Mae eraill yn dechrau dod i'r amlwg nawr. Mae pob mis yn dod â gwyfynod newydd, felly mae rhywbeth i'w ddarganfod bob amser. Beth am i ni gwrdd ag ychydig o wyfynod rhyfeddol mis Mawrth!

Nid glöyn byw ydi’r creadur yna…

Ar ddyddiau heulog y gwanwyn, edrychwch i frig coed bedw ac efallai y byddwch chi'n gweld fflach o oren yn gwibio drwy'r canghennau. Mae’n hawdd camgymryd y creadur yma am löyn byw, ond adenydd ôl lliwgar gwyfyn sy'n hedfan yn ystod y dydd ydi’r oren, sef y gwyfyn ôl-adain oren. Pan mae’r gwyfyn yn setlo, mae'r oren llachar yma’n diflannu gan fwyaf o dan yr adenydd blaen brown brith - llawer gwell ar gyfer cuddio yn erbyn boncyff coeden. Weithiau mae’n dod i lawr i’r ddaear i dorheulo neu i yfed o byllau dŵr, gan gynnig cyfle i'w edmygu'n fanylach.

An orange underwing resting on a tree root, its bright orange hindwings peeking out frmo beneath its brown forewings

Orange underwing © Tom Hibbert

Nid yr ôl-adain oren ydi'r unig wyfyn sy'n hedfan yn ystod y dydd y gallwch chi ddod ar ei draws ym mis Mawrth. Yn ddiweddarach yn y mis, mae'r ôl-adain oren fach eithriadol debyg ond llawer prinnach yn hedfan, ond dim ond gwibio o amgylch coed aethnen fydd y gwyfyn yma gan fwyaf. Mae'r pwtyn dwyresog yn llawer mwy cyffredin. Mae'r gwyfyn bach, diymhongar yma’n fosaig o frown cyfoethog a llwydwyn. Mae posib dod o hyd iddo mewn parciau a gerddi, lle bydd rhywun yn tarfu arno mewn llwyni yn aml. Mewn heulwen gynnes, efallai y bydd posib ei weld yn hedfan ac yn ymweld â blodau.

A double-striped pug moth, its mottled brown wings held out to the side

Double-striped pug © Brian Eversham

Tua diwedd y mis, chwiliwch am un o'n gwyfynod mwyaf trawiadol ni. Ar ddyddiau heulog, mae’r gwyfyn ymerawdwr gwryw yn hedfan o gwmpas mewn tir agored, fel rhostir a gweundir, gan ddefnyddio ei antenâu pluog i ddilyn llwybrau fferomon y benywod. Mae’n bryf godidog, gyda smotyn enfawr tebyg i lygad ar bob un o'i bedair adain.

A male emperor moth resting on a branch. It's a large moth with bright orange hindwings. Each of its four wings has a large eyespot and it has feathery antennae

Male emperor moth © Matthew Hazleton

Chwarae cuddio

Er bod y rhan fwyaf o wyfynod yn hedfan yn ystod y nos, dydi hynny ddim yn golygu na allwch chi eu hedmygu nhw yn ystod y dydd. Mae'n rhaid i wyfynod orffwys yn rhywle wrth aros i'r haul fachlud. Gyda rhywfaint o lwc neu lawer o amynedd, fe allwch chi eu gweld yn pendwmpian yn aml.

Bydd llawer o wyfynod yn gorffwys ar foncyffion coed, mewn cuddliw perffaith ar ddarn o risgl, mwsogl neu gen. Maen nhw'n eithriadol anodd eu gweld yn aml, ond gall dyfalbarhau i chwilio dalu ar ei ganfed. Y mis yma, efallai y byddwch chi'n dod ar draws rhisglyn y derw neu fenyw y rhisglyn ymyl fraith  - mae eu hadenydd nhw’n fyrdew a dydyn nhw ddim yn gallu hedfan, felly maen nhw’n aros ar foncyffion coed am wrywod sy'n mynd heibio.

Mae bob amser yn werth gwirio ffensys, pyst ffensys a waliau – mae gwyfynod yn haws eu gweld yma yn aml nag ar goed. Mae’n well edrych yn gynnar yn y dydd, oherwydd gall golau cynnes yr haul wneud iddyn nhw symud o’r golwg. Ym mis Mawrth, mae siawns dda o ddod o hyd i lwydyn y gwyddfid ar strwythur wedi’i wneud gan ddyn. Mae’r tebygolrwydd o ddod o hyd i wyfynod yn well fyth os oes golau gerllaw, gyda’r golau wedi eu denu yn ystod y nos.
 

An early grey moth resting on a stone memorial in a cemetery

Early grey resting on a statue © Tom Hibbert

Dweud helo wrth helyg

Er bod digon o wyfynod i’w darganfod yng ngolau dydd, mae llawer mwy o fwrlwm ar ôl i’r haul fachlud. Estynnwch am fflachlamp ac ewch allan ar saffari nos i weld gwyfynod yn eu helfen. Yn gynnar yn y gwanwyn, mae blodau’r helyg yn arbennig o boblogaidd. Maen nhw’n ffynhonnell wych o egni i wyfynod a phryfed eraill, pan nad oes llawer o flodau eraill ar gael. Yn ystod y dydd, maen nhw’n fwrlwm o wenyn a phryfed hofran. Yn y nos, tro’r gwyfynod yw hi. Ymhlith y rhywogaethau i’w gweld ym mis Mawrth mae’r crynwr amrywiol, y crynwr cyffredin, y crynwr Gothig, y crynwr gwridog a’r cleddwyfyn coch.

A common quaker moth resting on a rock. It's a brown moth with large, rounded kidney spots

Common quaker © Vaughn Matthews

Helpu gwyfynod i hedfan

Un o'r ffyrdd gorau o weld mwy o wyfynod yw drwy eu gwahodd i'ch gardd. Gallwch blannu blodau persawrus yn ystod y nos i hudo’r oedolion, ond os ydych chi wir eisiau i wyfynod ymgartrefu yn eich llecyn gwyrdd, mae angen i chi ddarparu ar gyfer y lindys. Darparwch ddigon o blanhigion bwyd ac fe all eich gardd chi ddod yn baradwys i wyfynod. Gallwch gael mwy o wybodaeth, llyfryn am ddim ac addo bod yn hyrwyddwr gwyfynod yn wildaboutgardens.org.uk

Lawrlwythwch eich llyfryn rhad ac am ddim