Dro natur y gaeaf

A large oak tree dominates the left side of the picture, it has no leaves but it's smaller branches are covered in frost or snow, with the dark thicker branches and trunk contrasting against the white canopy. The ground is an off white of snow on grass, and the sky is white with a frost fog. There are 3 much smaller trees in the background, much further away in the field, and fading slightly into the mist.

Oak trees in a frosty winter landscape © Guy Edwards / 2020VISION

Dro natur y gaeaf

Lleoliad:
Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â ni i fynd am dro gaeafol o amgylch y warchodfa wrth i ni archwilio a gweld pa fywyd gwyllt sydd i’w weld yn ystod y misoedd oerach.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Mynedfa cilfan Cors Goch i'r warchodfa ger Brynteg, LL78 8JZ. SH 504 816. W3W ///winds.colder.mouths

Dyddiad

Time
11:30am - 3:00pm
A static map of Dro natur y gaeaf

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni am daith gerdded natur o amgylch Gwarchodfa Natur Cors Goch. Gan gyfarfod yn y gilfan fechan gyda'r arwydd i'r warchodfa, byddwn yn cerdded i fyny'r llwybr ac i'r warchodfa. Wedyn byddwn yn cerdded ar hyd rhai o'r llwybrau drwy'r warchodfa lle gallwn fwynhau golygfeydd a synau byd natur o'n cwmpas.

Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.

Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru. 

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r warchodfa'n cynnwys tir serth, anwastad mewn rhai mannau, a llwybrau pren cul sy’n gallu bod yn llithrig ar ôl glaw trwm.

Mae toiled yn y warchodfa, ger dechrau'r daith gerdded.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch ag esgidiau cerdded sy’n dal dŵr neu welingtyns, dŵr a phecyn bwyd i ginio.

Gwisgwch ar gyfer y tywydd ar y diwrnod. Bydd rhywfaint o dir garw a gwlyb ar y daith. Gwisgwch esgidiau priodol.
 

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Parciwch yn y gilfan fawr a cherdded ar hyd y ffordd i fynedfa'r warchodfa, W3W ///enjoys.depending.shuffles. Rhannwch lifft os gallwch chi gan mai dim ond lle i barcio ar ochr y ffordd sydd ar gael.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni