Oak trees in a frosty winter landscape © Guy Edwards / 2020VISION
Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â ni i fynd am dro gaeafol o amgylch y warchodfa wrth i ni archwilio a gweld pa fywyd gwyllt sydd i’w weld yn ystod y misoedd oerach.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â ni am daith gerdded natur o amgylch Gwarchodfa Natur Cors Goch. Gan gyfarfod yn y gilfan fechan gyda'r arwydd i'r warchodfa, byddwn yn cerdded i fyny'r llwybr ac i'r warchodfa. Wedyn byddwn yn cerdded ar hyd rhai o'r llwybrau drwy'r warchodfa lle gallwn fwynhau golygfeydd a synau byd natur o'n cwmpas.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.
Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.
Bwcio
Pris / rhodd
Anogir rhoddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
OedolionGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07375520494
Cysylltu e-bost: helen.carter-emsell@northwaleswildlifetrust.org.uk