Taith y Logo!

Taith y Logo!

Cymell © NWWT

Mae gan ein prosiect Tirweddau Byw Corsydd Calon Môn logo newydd! Darllenwch ymlaen i glywed sut y cafodd y logo ei gyd-ddylunio gan bobl o gymunedau lleol ar Ynys Môn.

Rydym ni’n gyffrous i rannu ein logo newydd – wedi’i gyd-ddylunio gan Cymell, Canolfan Addysg y Bont, Oriel Môn a Herds of Birds, gan weithio ochr yn ochr â staff y prosiect a’r grŵp llywio. Rydym ni’n hapus iawn gyda sut mae’n edrych ac yn gobeithio eich bod chi’n ei hoffi hefyd!

Corsydd Calon Mon logo

Corsydd Calon Mon logo © NWWT

Felly, beth mae cyd-ddylunio logo yn ei feddwl mewn gwirionedd?

Fe wnaethom ddechrau gydag ymweliad i Gors Bodeilio, gan ddefnyddio cit ffotograffiaeth a sain (wedi’i fenthyca’n garedig gan TAPE Community Music and Film) i ddal y golygfeydd a’r synau. Ymunodd ein Swyddog Natur Cymunedol ac Addysg, Anna Williams â’r grŵp i helpu i amlygu rhai o’r nodweddion allweddol, anifeiliaid, pryfed a phlanhigion.

Cynigiodd bawb eu barn unigryw eu hunain, a oedd yn cynnwys tîm sylwebaeth sain yn arddull David Attenborough, sgyrsiau ag ŵyn, lluniau agos o blanhigion a chreaduriaid, yn ogystal â lluniau o ffrindiau yn y dirwedd, a delweddau amrywiol a wnaeth helpu i ddangos amrywiaeth y patrymau a'r lliwiau yn natur yn y safle. Arweiniodd hefyd at ddarn o gerddoriaeth wreiddiol wedi'i hysbrydoli gan yr ymweliad. Fe wnaeth pobl ddehongli’r corsydd mewn gymaint o ffyrdd unigryw a rhyfeddol!

Mwynhaodd bawb yr ymweliad â’r corsydd yn fawr iawn, roedd y disgyblion wrth eu boddau yn bod allan yn yr awyr agored, yn gweld bywyd gwyllt, cymryd lluniau, a recordio synau i helpu gyda dylunio’r logo
meddai Lowri Fretwell gan fyfyrio ar ymweliad ei disgyblion i’r safle.

Ein her wedyn oedd sut i gael hynny i gyd mewn logo!

Ymatebodd Kirsty a Kelly o Oriel Môn yn wych i’r her o’n helpu ni i ddod â hyn i gyd at ei gilydd, gan weithio gyda grwpiau dros nifer o sesiynau yn yr oriel. Gan ddefnyddio’r hyn roeddem ni wedi’i ddal drwy ffilm, lluniau a sain, yn ogystal ag atgofion cyfunol o’r safleoedd, dechreuom gael y prif themâu, siapiau a lliwiau a fyddai’n rhan o’n logo newydd.

Roedd hi’n wych gweld y lluniau oedd wedi cael eu tynnu gan y disgyblion yn dod yn fyw yn nyluniad y logo
Huw Edwards, Athro

Ar ôl rhywfaint o sesiynau creadigol iawn, roedd gennym ni chwe dyluniad posibl a llwyth o waith celf a gafodd eu hanfon wedyn i’n dylunydd, Matt o Herds of Birds,  i ddod â’r cyfan ynghyd mewn dyluniadau digidol y gallem ni wedyn wneud addasiadau terfynol iddynt.

Aeth Matt ati i greu drafft cyntaf o dri dyluniad posibl i’r grŵp eu trafod. Fe wnaeth y grŵp gyfarfod yn Oriel Môn ar gyfer dadorchuddiad mawreddog y dyluniadau drafft cyntaf. Fe wnaethon nhw drafod yr hyn roedden nhw’n ei hoffi, yr hyn nad oedden nhw’n ei hoffi, a’r hyn y bydden nhw’n hoffi ei newid neu ei ychwanegu i bob dyluniad.

Gan ymuno â’r grŵp drwy gyswllt fideo, esboniodd Matt y broses yr oedd wedi mynd drwyddi gyda phob un o’r dyluniadau a gofyn am adborth y grŵp. Fe wnaethom ni hefyd siarad am ble y gallem ni ddefnyddio ein logo a pha fersiynau gwahanol y gallai fod angen i ni eu creu.

Yna, rhanwyd y fersiynau terfynol gyda’r grwpiau, a grŵp llywio’r prosiect, yn barod am yr adborth terfynol a’r dadorchuddiad mawreddog!

Girl looking at a stall, Corsydd Calon Mon

© NWWT

Gan fyfyrio ar y broses gyd-ddylunio, dywedodd Kirty Baker, Rheolwr Dysgu ac ymgysylltu yn Oriel Môn, ‘Mae wedi rhoi’r cyfle i ni archwilio’r cysylltiadau rhwng ein casgliadau, yr amgylchedd naturiol, a safleoedd lleol. Rydym ni hefyd wedi bod yn ffodus i feithrin perthynas waith lwyddiannus gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac yn edrych ymlaen at gyd-weithio yn y dyfodol.’

Rydym ni hefyd wedi gwneud fersiwn wedi’i animeiddio o’r logo, gan ddenfyddio’r gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan ein hymweliadau. Rydym ni’n edrych ymlaen i’w rannu gyda chi’n fuan!

Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect, edrychwch ar ein rhestr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill neu anfonwch e-bost i ccm@northwaleswildlifetrust.org.uk 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau

Scenic view of Cors Goch Nature Reserve on Anglesey, showcasing a serene landscape with misty wetlands, a reflective pond in the foreground, scattered trees, and distant mountains under a sky filled with soft clouds. The image captures the tranquility and natural beauty of the reserve

Roy & Tracy Briggs