Er mai benyw y rhywogaeth sydd fel arfer yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o'r dyletswyddau fel rhiant yn nheyrnas yr anifeiliaid, dydi hynny ddim yn wir bob amser. O dan y môr ac i fyny yn y coed, mae yna rai tadau triw iawn ym myd natur.
Saith tad anhygoel ym myd natur
Three spined stickleback © Jack Perks

Wren © Andy Rouse/2020VISION
Dryw
Efallai mai'r dryw ydi un o'n hadar lleiaf ni, ond mae'n gwneud iawn am fod yn fach o ran maint gyda’i ddycnwch. Yn ogystal â gallu canu mor uchel fel ei fod yn gwneud i'w gorff bach ddirgrynu, mae’r dryw gwrywaidd yn seren DIY. Bydd yn adeiladu 'cragen allanol' nid un, ond sawl nyth yn ei diriogaeth, gyda’r dryw benywaidd wedyn yn dewis yr un sy'n mynd â'i phryd hi ac yn ei orffen gyda leinin o blu. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu y gallai un dryw gwrywaidd fod yn helpu i fagu sawl teulu ar yr un pryd, ond fe wnawn ni anwybyddu hynny am y tro…

Short-snouted seahorse © Paul Naylor
Morfarch trwynbyr
Y morfarch yw'r unig anifail sy’n cael beichiogrwydd gwrthdro. Mae'r fenyw yn trosglwyddo'r wyau i'r gwryw, sy'n eu ffrwythloni ei hun. Wedyn mae'n cadw'r wyau yn ei god deor cyn rhoi genedigaeth i rai bach byw o'r enw silod mân yn ystod esgoriad sy’n gallu para hyd at 12 awr! Mae morfeirch gwrywaidd yn profi poenau esgor hyd yn oed, ac yn rhoi genedigaeth i tua 100 i 200 o silod mân yn ystod un beichiogrwydd.
Mae posib dod o hyd i forfeirch trwynbyr ar arfordir deheuol y DU, yn byw mewn aberoedd a dolydd morwellt.

Great Crested Grebes © Donald Sutherland
Gwyach fawr gopog
Mae’r wyach fawr gopog wrywaidd yn rhannu cyfrifoldeb llawn am ddeor y wyau a bwydo cywion, a bydd yn gadael i'r cywion reidio o gwmpas ar ei gefn hyd yn oed. Dydi hyn ddim oherwydd nad ydi’r cywion yn gallu nofio (maen nhw’n gallu nofio a phlymio wrth ddeor bron a dweud y gwir), ond fel bod yr oedolion yn gallu eu dysgu sut i bysgota. Maen nhw’n gwneud hyn drwy adael y cywion i arnofio ar yr wyneb, ac wedyn plymio ac ailymddangos ychydig droedfeddi i ffwrdd fel bod y cywion yn gallu nofio’n ôl atyn nhw.

Cockroach © Brett Hondow on Pixabay
Chwilen Ddu
Efallai bod gan chwilod duon enw drwg, ond yn sicr dydi gwryw y rhywogaeth ddim yn dad da i ddim. Mae tadau chwilod duon yn bwyta tail adar i gael nitrogen - rhan hanfodol o'u deiet - cyn ei gario'n ôl i'w hepil. Hefyd mae chwilod duon sy'n bwydo ar bren i’w cael - bydd y rhieni balch yma’n sgubo eu meithrinfeydd yn lân i warchod eu rhai bach rhag clefydau.

Three spined stickleback © Jack Perks
Crothell dri phigyn
Dydych chi ddim eisiau croesi tad newydd y grothell dri phigyn! Yn ogystal ag adeiladu nyth gan ddefnyddio darnau o blanhigion dŵr wedi'u rhwymo gan linynnau gludiog sy'n cael eu chwistrellu allan o'i arennau, mae'r grothell wrywaidd yn gwarchod y nyth, gan ymladd yn chwyrn yn erbyn ysglyfaethwyr posibl nes bod yr wyau'n deor, sy’n gallu cymryd wythnos i fis o amser. Bydd hefyd yn ffanio dŵr dros yr wyau i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o ocsigen i ddatblygu.
Ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon, bydd y grothell wrywaidd wedyn yn gofalu am y rhai bach (tua 100 o silod mân!) am wythnos neu fwy ar ôl deor.

Red fox © Bertie Gregory/2020VISION
Llwynog coch
Dyma dadau sy’n dotio ac maen nhw’n mynd allan i hela ar gyfer eu cenawon bob dydd nes eu bod nhw tua thri mis oed. Ar ôl yr amser yma, maen nhw'n dechrau claddu bwyd yn agos at y ffau i ddysgu'r cenawon sut i chwilio am fwyd. Yn fuan ar ôl hyn (tua mis Gorffennaf) mae'r llwynogod sy'n oedolion yn dechrau dangos ychydig o 'gariad caled' wrth iddyn nhw geisio adfer cyflwr eu corff eu hunain; gan yrru eu cenawon i ffwrdd a'u gorfodi i archwilio eu tiriogaeth.
Red-necked phalarope © Derek Moore
Llydandroed gyddfgoch
Mae'r llydandroed gyddfgoch yn un o adar prinnaf y DU, gan fudo o dde America i Shetland ac Ynysoedd Gorllewinol yr Alban bob blwyddyn. Mae’r llydandroed gyddfgoch yn newid rôl yn llwyr hefyd. Mae’n 'ddimorffig yn rhywiol', sy'n golygu bod y fenyw yn fwy lliwgar na'r gwryw. Mae hyn oherwydd mai ef sy’n ymgymryd â'r holl ddyletswyddau deori felly mae angen mwy o guddliw. Y benywod hefyd ydi'r rhai sy'n cystadlu am safleoedd nythu, yn dewis gwryw ac wedyn yn amddiffyn eu hunain rhag benywod eraill. Unwaith bydd y cywion yn cyrraedd, mae hi'n mynd, gan adael y gwryw i'w magu nhw ar ei ben ei hun.
Gyda diolch arbennig i Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerhirfryn am ddarparu'r cynnwys ar gyfer y blog yma.