Torri ymyl o flodau gwyllt …

Torri ymyl o flodau gwyllt …

Torri ymyl o flodau gwyllt … ond dyma Mark Greenhough, swyddog prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam, i esbonio sut gall da ddod o ddrwg.

Bydd llawer ohonoch chi wedi gweld stori yn ddiweddar ar gyfryngau cymdeithasol, neu yn y wasg leol yng Ngogledd Cymru, am ymyl o fywyd gwyllt tu allan i adeilad Village Bakery ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn cael ei dorri. Daethpwyd i ddeall ers hynny bod hyn wedi cael ei wneud yn ddamweiniol gan gontractwyr yn gweithio ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi ymddiheuro am y camgymeriad anffodus. Er bod hwn yn ddigwyddiad sy’n destun gofid, mae llawer mwy o ardaloedd i fywyd gwyllt yn ffynnu yn yr ardal leol a’r cyffiniau.

Roedd yr ymyl dan sylw’n un o dri llecyn a grëwyd gan brosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar safle Village Bakery, mae dwy ardal arall i flodau gwyllt yn ffynnu – gan edrych yn atyniadol iawn yr adeg yma o’r flwyddyn, ac yn darparu cynefin i wenyn a llawer o bryfed eraill. Yn ychwanegol at y safle yma, mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio gyda llawer o fusnesau eraill ar y stad, ochr yn ochr â grwpiau lleol, i greu a chynnal ardaloedd eraill o fywyd gwyllt ledled ardal Wrecsam. 

 

Wildflower meadow on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape project

Wildflower meadow on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape project © Mark Greenhough

Yr hyn oedd yn nodedig ac yn galonogol am y stori oedd ymateb pobl leol. Ar dudalen Facebook Village Bakery yn unig cafwyd cannoedd o sylwadau a rhannu, yn dangos yn glir bod pobl yn poeni am eu hamgylchedd lleol a’r gwaith mae’r Ymddiriedolaeth Natur ac eraill yn ei wneud i’w wella i fywyd gwyllt. Dydyn ni ddim eisiau i fwy o ymylon gael eu torri er mwyn dangos hyn eto, ond hir y parhaed blodau gwyllt i fod mor boblogaidd ymhlith y cyhoedd!   

Am fwy o wybodaeth am brosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam, gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli, ewch i wefan a thudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth Natur.