Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Village Bakery wildflower meadow
TIRWEDDAU BYW

Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Oherwydd ei hanes unigryw, mae Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn hafan bwysig i fywyd gwyllt. Gan ei bod yn stad ddiwydiannol, mae’n gyfle gwych i geisio integreiddio anghenion yr economi, yr amgylchedd a chymdeithas yn briodol mewn ffordd sydd wir o fudd i bawb.                       

Rydyn ni’n gweithio gyda busnesau lleol a phartneriaid eraill i wneud y dirwedd yn y stad ddiwydiannol ac o’i hamgylch yn fwy hygyrch i fywyd gwyllt ac i bobl ac yn fwy atyniadol i fusnesau, gan hefyd wella iechyd a lles cyflogeion a chymunedau gerllaw.

Ymhlith y gweithgareddau mae: rheoli dolydd o flodau gwyllt, creu gwrychoedd, gosod blychau nythu yn eu lle, rheoli ymylon ffyrdd, creu cynefinoedd ar gyfer glöyn byw y gwibiwr brith ac adfer llwybrau troed.                            

Y prosiect diweddaraf o dan y cynllun hwn yw’r Prosiect Bioamrywiaeth a Busnes. Ariannwyd y prosiect hwn drwy Lywodraeth Cymru a’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020  - Cynllun Rheoli Cynaliadwy sydd yn cael ei ariannu gan Gyllid Ewropeaidd er Datblygu Cefn Gwlad a hefyd gan Lywodraeth Cymru.  Mwy o wybodaeth am y cynllun hwn ar gael yma ...

Os hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn Nhirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam, neu os hoffech chi gefnogi’r prosiect fel noddwr corfforaethol, cysylltwch â:

Henry Cook, Swyddog Prosiect Tirwedd Fyw (Wrecsam)

henry.cook@northwaleswildlifetrust.org.uk
Twitter: @wieproject

Bod yn wirfoddolwr

European Agricultural Fund for Rural Development