Plast Off! 2019

Plast Off! 2019

Plast Off 2018 - Beach clean

Rhowch gychwyn gwych i’ch Blwyddyn Newydd drwy wneud rhywbeth cadarnhaol dros fywyd gwyllt! Ymunwch â ni am sesiwn glanhau traeth arbennig iawn ar 19 Ionawr ...

Bydd 2018 yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd gwnaeth y llygredd plastig yn ein moroedd ni dynnu sylw’r cyhoedd ar raddfa fawr. Mae’n broblem fyd-eang ac mae’n cael ei gweld yn aml fel un amhosib ei datrys, ond mae codi allan a helpu i gadw eich traeth lleol yn lân yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’r bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref.    

Y llynedd fe fuon ni’n gweithio gydag RSPCA Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus a Syrffwyr Yn Erbyn Carthffosiaeth i gynnal un o ddigwyddiadau cyhoeddus mwyaf poblogaidd y flwyddyn – sesiwn glanhau ar raddfa fawr ar y traethau o amgylch Porth Trecastell ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Mentrodd 150 o bobl allan yn y tywydd gaeafol i helpu i gael gwared ar fwy na hanner tunnell o sbwriel oddi ar dri thraeth gwahanol mewn dim ond 5 awr – a fis Ionawr eleni, rydyn ni eisiau gwneud y cyfan eto, ond ar raddfa lawer mwy!

Bydd ‘Plast Off! 2019’ yn cael ei gynnal rhwng 10:00 a 16:00 ddydd Sadwrn 19 Ionawr ym Mhorth Trecastell. Yn ymuno â ni eto bydd tîm Achub â Rhaff RSPCA Cymru, a fydd yn defnyddio eu harbenigedd i gael gwared ar blastig o lefydd llai hwylus eu cyrraedd, a bydd staff gennym ni wrth law yn y maes parcio i friffio a rhoi offer i holl aelodau’r cyhoedd sydd eisiau ymuno. Y cyfan fydd raid i chi ddod gyda chi ydi agwedd bositif a digon o ddillad cynnes sy’n dal dŵr. Pa well ffordd o gael gwared ar dipyn o ormodedd y Nadolig na thrwy wneud eich rhan dros yr amgylchedd – gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Cable Bay "Plast Off" beach clean. January 2018. With North Wales Wildlife Trust, RSPCA, Surfers Against Sewage (Anglesey) and Keep Wales Tidy. © Cloudbase Productions