Moroedd Byw YN FYW!

Moroedd Byw YN FYW!

Living Seas Wales roadshow - Nia Haf Jones

Yr haf yma, bydd tîm Moroedd Byw Cymru’n mynd ar daith! Gallwch ddisgwyl profiad realiti rhithiol, archwilio pyllau creigiog, cribo traeth, snorcelu, gwylio’r môr a llawer mwy! Mwy o wybodaeth am ble i’n gweld ni yma ...
Living Seas Wales roadshow

Living Seas Wales roadshow - Nia Haf Jones

O 21 Awst ymlaen, byddwn yn teithio ledled Gogledd Cymru i ddod â ‘Moroedd Byw Yn Fyw!’ i’ch ardal chi. Dyma gyfres o sioeau teithiol bywyd gwyllt undydd sy’n dangos bywyd gwyllt y môr a’r arfordir yn yr ardal leol.  Wedi’r cyfan, mae gan Gymru tua 1,700 o filltiroedd o arfordir a gyda bron i 15,000km2 o fôr, mae’n gartref i gasgliad eang o fywyd gwyllt rhyfeddol!  

Hefyd byddwn yn gofyn i chi ddweud eich Straeon y Môr wrthym ni. Rydyn ni eisiau tyrchu i’r gorffennol a chasglu eich atgofion byw chi am brofiadau o fywyd gwyllt – gallai’r rhain fod yn fwy arwyddocaol nag ydych chi’n ei feddwl i weithredu dros gadwraeth heddiw. Efallai y byddwch chi’n gweld bod gennych chi wybodaeth, straeon, arteffactau ac atgofion nad oes gan unrhyw un arall, neu sydd wedi’u hanghofio fel arall. Dewch â nhw gyda chi i’r sioe deithiol neu ffoniwch ni gyda’r wybodaeth! 

Allan hyd y lle

21ain Awst 2018: Aberdyfi

23ain Awst 2018: Amlwch

24ain Awst 2018: Porthdinllaen

26ain Awst 2018: Caergybi

27ain Awst 2018: Traeth y Gorllewin, Llandudno

29ain Awst 2018: Y Rhyl

1af Medi 2018: Morfa Bychan / Traeth y Graig Ddu

2il Medi 2018: Aberdaron

29ain Hydref – 2il Tachwedd 2018: Castell Harlech

Mwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a’n holl ddigwyddiadau eraill yn www.northwaleswildlifetrust.org.uk/events neu ymunwch yn yr hwyl ar ein tudalen ni ar Facebook: www.facebook.com/LivingSeasWales/