Y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn cydnabod afancod yn swyddogol fel rhywogaeth frodorol ac yn ymestyn statws Rhywogaeth Warchodedig Ewropeaidd iddynt yng Nghymru. Daw'r ddeddfwriaeth newydd i rym o 4ydd Mawrth 2026 ac mae'r cam diweddaraf hwn yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Alicia Leow-Dyke, Swyddog Prosiect Afancod Cymru ar gyfer Ymddiriedolaethau Natur Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at y nod yma o warchodaeth gyfreithiol i afancod yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, felly rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad gwych yma. Mae afancod yn chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystemau ni ac mae eu cydnabod yn ffurfiol fel rhywogaeth frodorol yn beth iawn i’w wneud. Mae’n nodi carreg filltir hanfodol o ran ailsefydlu afancod gwyllt yng Nghymru. Diolchwn i Lywodraeth Cymru am wrando ar yr holl dystiolaeth a gwneud y penderfyniad cywir.”
Dywedodd Richard Young, Prif Swyddog Gweithredol y Beaver Trust: “Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i roi gwarchodaeth gyfreithiol i afancod yng Nghymru yn fawr iawn. Mae afancod yn darparu amrywiaeth anhygoel o fuddion i’n hecosystemau ni, gan wneud hwn yn gam hynod gadarnhaol ar gyfer adferiad byd natur. Mae’r penderfyniad nodedig yma’n adlewyrchu blynyddoedd o ymrwymiad a chydweithrediad gan gadwraethwyr, cymunedau a llunwyr polisïau, pob un yn gweithio’n ddiflino i greu Cymru wydnach a mwy bioamrywiol.”
Dywedodd Karen Whitfield, Cyfarwyddwr Cyswllt Amgylchedd Cymru: “Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn croesawu’r penderfyniad i warchod afancod yn gyfreithiol yng Nghymru. Mae hwn yn gam arwyddocaol a allai gyflymu adferiad byd natur ar draws dalgylchoedd afonydd Cymru. Mae ailgyflwyno sy’n cael ei reoli’n gyfrifol, wedi’i seilio ar ymgysylltu cymunedol da, tystiolaeth gref, ac asesiadau effaith, yn hanfodol bellach i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau manteision afancod yn afonydd Cymru.”