Llwybr pren newydd i Big Pool Wood

Llwybr pren newydd i Big Pool Wood

© Mark Hughes

Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a Chronfa Gymunedol Estyniad Banc Burbo, drwy ddatblygu dros 400m o lwybr pren mae gwirfoddolwyr yn trawsnewid Big Pool Wood i fod yn warchodfa natur y gall pawb fwynhau ymweld â hi!

Bydd ymwelwyr rheolaidd â Gwarchodfa Natur Big Pool Wood wedi sylwi bod y llwybr troed o amgylch ochr bellaf y pwll wedi mynd yn llawer mwy mwdlyd. Mae wedi bod yn amhosibl cerdded arno yn aml yn ystod y gaeaf heb welingtyns – a fawr ddim gwell yn ystod yr haf! Doedden ni ddim yn siŵr pam oedd hyn yn digwydd, neu hyd yn oed ai ni oedd ar fai ein hunain – gallai unrhyw beth o newid yn yr hinsawdd i gynyddu nifer yr ymwelwyr neu glirio helyg ymledol allan o’r pwll fod wedi cyfrannu. Beth bynnag oedd y rheswm, daeth yn amlwg y byddai’n rhaid gwneud rhywbeth, yn enwedig gan ei fod wedi bod yn uchelgais hirdymor gan yr Ymddiriedolaeth Natur i wneud y ddolen gyfan o amgylch y pwll yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.

Nawr, diolch i gyllid o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a Chronfa Cymuned Ymestynnol Banc Burbo, rydyn ni’n cymryd cam enfawr ymlaen. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn cwblhau darn 70m o lwybr pren newydd sbon (ar ben pyst wedi’u gwneud yn lleol o blastig wedi’i ailgylchu) ac yn uwchraddio 350m arall o’r llwybr gydag arwynebau cadarn a llefydd pasio; yn ogystal â gosod ramp i un o’r cuddfannau a llwyfan archwilio pwll – am welliant! Bydd llawer o’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau cyn diwedd mis Mawrth, gyda’r holl waith sy’n tarfu wedi’i drefnu cyn dechrau tymor nythu’r adar!

Boardwalk construction

© Mark Hughes 

Gwirfoddolwyr gwerthfawr

Er bod yr arian ar gyfer y gwaith yma wedi dod gan gyllidwyr allanol – ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddynt! – mae’r gwaith ar y tir yn cael ei wneud yn bennaf gan ein grŵp anhygoel ni o wirfoddolwyr. Mae dwy brif fantais i’r ymdrech anhygoel yma (anhygoel yn benodol am ei fod yn golygu gweithio mewn mwd a dŵr sy’n sefyll!) – mae’n arbed arian, wrth gwrs, y gellir ei ailfuddsoddi mewn gwaith arall er lles bywyd gwyllt, ond mae gan yr amser sy’n cael ei gyfrannu werth ariannol mewn ffordd arall hefyd, gan helpu i ddangos ein hymrwymiad ni i’r cyrff cyllido. Rydyn ni, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod yn dilyn yr holl ganllawiau cyfredol ynghylch gweithio yn ystod y pandemig – cyfyngu ar nifer y cyfranogwyr a sicrhau bod yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn cael eu rhoi ar waith. Mae natur linellol y dasg yn helpu hefyd!

Os yw’r cyfyngiadau teithio’n caniatáu, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ymweld â Big Pool Wood. www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/nature-reserves/big-pool-wood

 

Funders logos_Big Pool Wood