Cofio Simon Smith

Cofio Simon Smith

Roedd staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn drist iawn o glywed am farwolaeth Simon Smith yn ddiweddar, gwirfoddolwr addfwyn, gofalgar ac ymroddedig a gefnogodd ein gwaith ni yng ngogledd ddwyrain Cymru am dros ddegawd.

Roedd Simon Smith, oedd yn cael ei adnabod yn fwy cyfarwydd fel ‘Simon DK’ o ganlyniad i’w statws chwedlonol fel DJ ac aelod a sylfaenodd system sain DiY Nottingham ar ddiwedd yr 80au, yn gymeriad unigryw ym mywydau llawer o bobl, dyn arbennig a ddatblygodd i fod, fwy na thebyg, y DJ parti am ddim enwocaf yn y wlad, gan ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i gamu at y deciau.

Gan chwilio am gyfnod o seibiant o’i fywyd prysur, dychwelodd Simon i ogledd Cymru, i gartref ei deulu yn Llanychan, ychydig y tu allan i Ruthun yn Nyffryn Clwyd. Yn 2012, dechreuodd wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Natur… ei dasg gyntaf oedd helpu i greu Gardd Bywyd Gwyllt newydd er budd plant Barnardo’s ger ysgol uwchradd yn Rhuthun. Roedd ei angerdd dros helpu eraill, yn bobl a bywyd gwyllt, yn amlwg iawn o'r diwrnod cyntaf hwnnw.

Wedyn fe ddechreuodd Simon ymwneud â’r ‘Prosiect Adfer Perllannau’, ac yng nghmwni hen ffrind ysgol iddo, Richard Kellett, fe wnaeth o a gwirfoddolwyr eraill greu cyfeillgarwch newydd, a threulio sawl diwrnod hir a hapus o aeaf yn tocio ac yn adfer perllannau traddodiadol ledled gogledd ddwyrain Cymru. Fe fu Simon yn ymwneud yn uniongyrchol ag adfer dwsinau o berllannau traddodiadol yn ogystal â chreu bron pob un o’r 50+ o berllannau ysgol newydd a mwy na 25 o berllannau cymunedol a gafodd eu creu yng ngogledd ddwyrain Cymru rhwng 2012 a 2019. Cyfrannodd hyn at atal y dirywiad enfawr mewn cynefinoedd perllannau ar draws y wlad.

Simon Smith

O weld pa mor bwysig oedd cysylltiad â natur i bobl a deall cyflwr difrifol cymaint o rywogaethau sy’n colli cynefinoedd addas yn ein cefn gwlad, fe roddodd Simon ei amser hefyd i helpu i hyrwyddo ymdrechion cadwraeth mewn gofod gwyrdd cymunedol, ac roedd yn wirfoddolwr allweddol mewn llawer o brosiectau eraill, gan gynnwys y 'Prosiect Mynwentydd Byw'. Roedd gan Simon ddiddordeb arbennig mewn dolydd blodau gwyllt a helpodd i arolygu, creu ac adfer dolydd niferus yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ac roedd ymhlith y bobl gyntaf i ‘drosi’ i ddefnyddio ‘pladur’ traddodiadol i reoli dolydd gwair. Yn aelod o gwmni pladurio cydweithredol gogledd Cymru, buan iawn y daeth i gael ei adnabod fel ‘Simon y Dinistriwr’ oherwydd ei arddull pladurio unigryw a oedd yn debyg iawn i’w swing golff. Byddai'n llafurio ac yn chwysu ac yn rhegi dan ei anadl, ond byth yn rhoi'r ffidil yn y to.

Adar oedd ei ‘beth’ ac roedd i’w glywed yn aml yn sôn am gri adar gerllaw. Roedd ei ddefod foreol yn cynnwys llenwi dim llai na 13 o declynnau bwydo adar yn ei gartref, doedd o byth eisiau gweld unrhyw greadur byw yn dioddef, neu'n newynu, a byddai'n mynd yr ail filltir i sicrhau na fyddai ei weithredoedd byth yn effeithio'n negyddol ar unrhyw beth. Byddai’n ailgartrefu chwilod, pryfed cop a phryfed genwair hyd yn oed, ac yn poeni am golli un morgrugyn pe baem yn dod ar draws nyth wrth i ni gloddio pridd neu dorri gwair.

Yn ystod ei gyfnod yn gwirfoddoli gyda’r ymddiriedolaeth ac yn ddiweddarach fel contractwr i Enfys Ecology, fe blannodd Simon gannoedd o goed ffrwythau ac, yn ôl pob tebyg, miloedd o goed brodorol yng ngogledd Cymru, gan greu gwrychoedd a phocedi o goetiroedd sydd heddiw’n cyfuno i greu coridorau bywyd gwyllt a cherrig camu ar gyfer bywyd gwyllt ar draws y dirwedd. Elfen arall o’r gwaddol enfawr mae’n ei adael ar ei ôl.

Rydyn ni wedi colli dyn addfwyn yr oedd llawer iawn o bobl yn hoff ohono, dyn a gyfrannodd nid yn unig at … ond a oedd hefyd wir yn deall ‘rhythm bywyd’.

Rydyn ni’n anfon ein meddyliau a’n cariad at ei deulu, at Nikki ac at bawb oedd yn ei adnabod.

Cwsg mewn hedd Simon.

(14eg Mai 1963 - 6ed Gorffennaf 2023)