Ar ôl y cynhaeaf mawr

Ar ôl y cynhaeaf mawr

Tree bumblebee (c) Penny Frith

Efallai fod y blodau yn gwywo, ond mae’ na ddigon o fywyd yn yr ardd eto!

Mae’r hydref yn amser tyngedfennol i nifer fawr o greaduriaid sydd i’w gweld yn yr ardd, hyd yn oed os ydynt yn brysur cynhaeafu a storio bwyd neu tewychu er mwyn goroesi’r gaeaf.

Mae’r haul yn gwanhau yn ei gynhesrwydd a’r nosweithiau yn ymestyn sydd yn golygu fod llai a llai o bryfed yn hedfan o gwmpas, ond fe welwch fod y cacwn dal o gwmpas gan ei fod, fel rhywogaeth, a’r gallu arbennig i borthi am fwyd hyd yn oed ar ddiwrnodau oer yr hydref oherwydd ei allu unigryw o greu gwres ei hun, sydd yn esbonio pam eu bod yn edrych fel y mae nhw; yn dew ac yn flewog. Yn wir, dyma pam fod cacwn mor effeithiol, ac hefyd mor hanfodol bwysig fel peillwyr yma yng Nghymru, a mwy pwysig fyth felly y bo chi’n sicrhau fod digonedd o blanhigion yn dal i flodeuo yn eich gardd sy’n cynnig ffynhonnell bwysig o baill a neithdar cyn y cwsg mawr.

How to make your own compost_Activity sheet_Cymraeg

Dadlwythwch eich taflen weithgaredd yma

Mae’r domen gompost hefyd yn dal i weithio’n galed diolch i’r holl greaduriaid bach sydd yn brysur iawn yn pydru’r deunyddiau organig sydd wedi pentyrru yno erbyn hyn. Cyn belled fod y domen yn ddigon mawr o rhan maint, mae holl waith prysur y microbau ar bacteria, y gwiddon, y chwilod a’r pryfed genwair yn parhau ymhell i fewn i’r gaeaf. Os wnewch chi fynd ati i insiwleiddio’r domen gyda gwellt, carped neu haenau tew o gardfwrdd rwan, mi fydd y gwres yn parhau gan ddenu nifer fawr o greaduriaid sydd yn yr ardd i gysgodi hyd nes ddaw’r gwanwyn.

Mae cyfleoedd niferus i chi wirfoddoli a dysgu mwy am arddio er lles bywyd gwyllt. Mae grwpiau gwaith rheolaidd yn digwydd yn ein swyddfa yn Aberduna ac ym Mangor – cysylltwch a’r swyddfa am rhagor o fanylion.