Drwy ymuno â Plast Off! 2026, bydd gwirfoddolwyr yn helpu i gael gwared â chymaint o sbwriel plastig â phosibl o'r darn yma o arfordir Ynys Môn, gan chwarae rhan hanfodol wrth warchod bywyd gwyllt morol lleol. Mae gan Gymru arfordir ysblennydd, ond mae lefelau cynyddol o lygredd plastig yn parhau i fygwth cyflwr ein moroedd ni a'r anifeiliaid sy'n dibynnu arnyn nhw.
Mae stormydd amlach a thywydd eithafol yn golchi mwy a mwy o sbwriel ar ein traethau ni, ac mae cynnydd mewn plastigau untro’n golygu bod y broblem yn parhau i dyfu. Mae llygredd plastig yn fygythiad difrifol i fywyd morol: gall morloi ac adar môr fynd yn sownd mewn lein bysgota neu gael eu dal mewn eitemau fel cylchoedd plastig a ffrisbis, a hefyd mae darnau llai o blastig yn gallu mynd i mewn i'r gadwyn fwyd pan maen nhw’n cael eu camgymryd am fwyd.