Plastoff 25 start © Jayke NWWT
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Pam ddim cychwyn y flwyddyn newydd hefo gweithred bositif i’r blaned a’n arfordir delfrydol leol?
Bydd ein 9fed sesiwn Plast Off! blynyddol i lanhau traeth ym Mhorth Tyn Tywyn ar Ynys Môn
Ym maes parcio Porth Tyn Tywyn, fe welwch ganolfan Plast Off! Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru gyda staff a'r gwirfoddolwyr ifanc sy'n helpu i drefnu digwyddiad eleni.
Yn ein maes parcio, byddwch yn gallu:
- Casglu offer glanhau traeth
- Archwiliwch ein stondinau gwybodaeth â thema forol
- Dod i wybod am ein Cynnig Aelodaeth Hanner Pris ym mis Ionawr
- Casglu eich tystysgrif am gymryd rhan!
Bydd sesiwn briffio grŵp mawr (a llun grŵp hefyd) yn fuan ar ôl 10:00, ac wedyn casglu sbwriel tan tua 13:00 pan fydd angen dychwelyd yr holl sbwriel i'n lleoliad ni yn barod ar gyfer y pwyso mawr (a llun grŵp gyda'n casgliad ni o sbwriel ar y diwedd wrth gwrs). Ond i'r rhai sy'n bwriadu dod am gyfnod byrrach, peidiwch â phoeni, fe fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael i'ch croesawu chi ar ôl y prif sesiwn briffio hefyd.
Dewch â'ch menig eich hun os oes gennych chi rai, gan na fydd gennym ni ddigon i'w benthyca i bawb. Bydd digon o offer casglu sbwriel a bagiau bin yn cael eu darparu.
Parcio am ddim ym Porth Tyn Tywyn i unrhyw un sydd yn mynychu’r digwyddiad rhwng 10:00 a 14:00. Casglwch eich tocyn parcio gan aelod o staff YNGC ar y diwrnod (diolch i Stad Bodorgan am eu caniatâd ar gyfer hyn).
Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu gan werthwr lleol (felly dewch â chwpan y mae posib ei ailddefnyddio ac ychydig o arian!)