Bywyd gwyllt newydd yng Ngwarchodfa Natur Aberduna – ni!

Bywyd gwyllt newydd yng Ngwarchodfa Natur Aberduna – ni!

Volunteers at Aberduna nature reserve

Mae gennym ni swyddfa a chyfleusterau gweithdy newydd – a’r cyfan wedi’i gyflawni drwy sgiliau ac amser ein tîm gwirfoddoli rhyfeddol ni …

Mae gwirfoddolwyr nid yn unig yn cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru drwy reoli gwarchodfeydd natur ond hefyd maen nhw wedi dangos i ni sut i osod gwterydd yn eu lle, plastro a phaentio, tynnu waliau a chlirio draeniau! Mae tîm o fwy nag 20 o arwyr medrus lleol, o dan arweiniad y gwirfoddolwr arbennig iawn, Richard Ewing, a gyda chymorth nodedig gan arbenigedd ymarferol Peter Aiken, wedi troi swyddfa chwarel wag yn swyddfa agored a glân i’n staff ni yng Ngwarchodfa Natur Aberduna, ger yr Wyddgrug. Dyma ymrwymiad anhygoel i’n hachos ni – gan ailgadarnhau pa mor hanfodol yw gwirfoddolwyr i’r Ymddiriedolaeth Natur.        

Volunteers at Aberduna nature reserve

© Les Starling

Mae creu’r swyddfa wedi bod yn waith hir ac araf. Pan wnaethon ni ddechrau ar y fenter yn 2014, fe gawson ni syniad o beth fyddai’r costau – a phe baen ni wedi llwyddo i gwblhau’r brydles a dechrau gweithio bryd hynny, mae’n eithaf posib y byddai’r hyn roedden ni wedi’i ragweld wedi bod yn iawn. Ond, ers hynny, rydyn ni wedi dod ar draws rhwystrau (fel diffodd y trydan, ac oedi cyfreithiol), felly ni chafodd y brydles ei llofnodi tan fis Rhagfyr 2017. Ac ar ôl i’r adeilad ddod yn eiddo i ni, roedd y dŵr wedi cael ei dorri i ffwrdd a’r draeniau wedi’u difrodi, a daethpwyd ar draws pryderon newydd ynghylch a oedd posib cael cyswllt addas â’r rhyngrwyd yn yr ardal wledig yma. A dweud y gwir, sawl gwaith, roedden ni’n anobeithio ynghylch cwblhau’r prosiect o gwbl, ac yn amau a ddylen ni fod yn dal ati. Dim ond egni’r gwirfoddolwyr a’r weledigaeth ar gyfer swyddfa a gweithdy newydd yn y warchodfa natur oedd yn gwneud i ni ddal i gredu. 

Ni fyddai’r Ymddiriedolaeth wedi gallu fforddio talu am y gwaith sydd wedi’i wneud – diolch i ymdrech a gwaith caled y gwirfoddolwyr mae’r staff wedi gallu symud i mewn yn awr, a dyblu eu hymdrechion i warchod a hybu bywyd gwyllt gogledd ddwyrain Cymru. Diolch o galon i bawb! 

Bod yn wirfoddolwr

Beth am fod yn arwr lleol a gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Natur eich hun? Fel rydych chi’n gallu gweld, rydyn ni’n gwerthfawrogi pob math o sgiliau.