
Aberduna Nature Reserve © Damian Hughes

Small Pearl bordered Fritillary - Chris Lawrence

Aberduna Nature Reserve

Willow warbler © Margaret Holland

Bluebells - Katrina Martin 2020Vision

Aberduna Nature Reserve © NWWT
Know before you go
Pris mynediad
NaManylion parcio
Mae lle parcio ar gael weithiau yn swyddfa’r Ymddiriedolaeth Natur ar y dde ar ôl y tro sydyn cyntaf; os nad oes, parciwch ym mhentref Maeshafn a defnyddiwch y map sydd wedi’i ddarparu i ddod o hyd i un o fynedfeydd y warchodfa.Anifeiliaid pori
Defaid, drwy gydol y flwyddyn. Merlod, Awst - Rhagfyr. Peidiwch â mynd at y merlod a’r defaid sy’n pori’r safle.Llwybrau cerdded
Llwybrau cyhoeddus, sy'n gallu bod yn serth.
Mynediad
Mae llwybrau troed yn mynd drwy’r warchodfa ond maent yn gallu bod yn serth ac nid yw’r tir yn addas i bramiau na chadeiriau olwyn..
Dogs
When to visit
Amseroedd agor
Ar agor bob amser.Amser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Blodau a brithion
Mae Aberduna yn warchodfa 20 hectar drawiadol sy’n cynnig golygfeydd godidog ar draws dyffryn Alun draw am Foel Famau a Bryniau Clwyd. Calchfaen yw sylfaen y safle cyfan ac mae’n dylanwadu’n fawr ar y cynefinoedd yn y warchodfa: coetir gyda llennyrch, prysgwydd, rhedyn, glaswelltir calchaidd, ardaloedd o galchfaen noeth a phyllau bychain. Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’r safle’n llawn blodau gwyllt - clychau’r gog, tegeirianau coch y gwanwyn, tegeirianau pêr, briallu Mair, cor-rosyn cyffredin a lloer-redyn yn yr ardaloedd o laswelltir a llysiauSteffan yr ucheldir, cwlwm cariad, suran y coed, blodau’r gwynt a blodyn-ymenyn peneuraid yn y coetir. Mae fioledau cyffredin yn tyfu yng nghysgod brith y rhedyn a’r coed, gan ddarparu bwyd i lindys glöyn byw y britheg berlog fach.
Pori glaswelltir, teneuo coed
Mae’r gymuned amrywiol o blanhigion ar y glaswelltir calchfaen sych yn cael ei chynnal yn bennaf gan ferlod a defaid, sy’n pori rhwng misoedd Medi a Mawrth fel rheol. Mae’r rhedyn a’r prysgwydd yn cael eu hatal rhag tyfu’n rhy gryf, sydd o fudd i flodau gwyllt. Mae llennyrch yn cael eu creu a choed yn cael eu teneuo yn y coetir llydanddail cymysg, er mwyn creu cymysgedd o oedran ac uchder yn y coed, ac i annog fflora brodorol y ddaear i ffynnu. Mae boncyffion a changhennau’n cael eu gadael ar lawr y coetir i ddarparu cynefin o bren marw i ffyngau ac infertebrata a safleoedd gaeafgysgu i amffibiaid.
Oeddech chi’n gwybod?
Ffurfiwyd y calchfaen sy’n sylfaen i Aberduna gan weddillion planhigion ac anifeiliaid morol a oedd yn byw 350 o filiynau o flynyddoedd yn ôl pan oedd y tir hwn i’r de o’r cyhydedd o dan foroedd trofannol cynnes.
Cyfarwyddiadau
Mae Gwarchodfa Natur Aberduna 3 milltir i’r de orllewin o’r Wyddgrug. O’r Wyddgrug, dilynwch yr A494 a throwch i’r chwith am Faeshafn ar ôl mynd drwy Wernymynydd