Bioblitz y DU Chris Packham

Bioblitz y DU Chris Packham

Bob blwyddyn a thrwy gydol y flwyddyn mae Ynys Môn yn croesawu miloedd o ymwelwyr. Eleni, yn blygeiniol am 7.00a.m ar 20 Gorffennaf, bydd naturiaethwyr brwd yn cael cyfle i weld ymwelydd anarferol iawn â Chemlyn ...

Mae’r cyflwynydd teledu a’r naturiaethwr brwd, Chris Packham, yn dod i Gemlyn fel rhan o’i ymgyrch Bioblitz yn y DU – archwiliad ar fywyd gwyllt y DU yn defnyddio ‘gwyddoniaeth y dinesydd’. 

Nod Bioblitz y DU yw creu ‘cipolwg’ o’n bywyd gwyllt ni, ac nid dim ond ar safleoedd cadwraeth natur sydd wedi’u dynodi. Yng Nghemlyn bydd Chris Packham a thimau Bioblitz y DU yn cymryd rhan mewn astudiaethau maes i gofnodi’r holl rywogaethau o fywyd gwyllt a phlanhigion sy’n byw yno. Bydd y timau Bioblitz yn cynnwys arbenigwyr bywyd gwyllt, gwyddonwyr, gwirfoddolwyr a phobl o bob cefndir a gallu – gan eich cynnwys chi! 

Bydd ymweliad cyflym personol Chris yn rhoi cychwyn i ddiwrnod ‘bioblitz’ prysur yng Nghemlyn, a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhwng 09.00 a 14.00, rydyn ni wedi trefnu digwyddiadau ac arolygon a fydd yn gyfle i chi ddod yn rhan o’r tîm sy’n casglu gwybodaeth am fioamrywiaeth drawiadol Cemlyn ar y tir ac yn y môr a’r awyr.    

Cyhoeddir rhestr lawn o’r gweithgareddau’n nes at y diwrnod ei hun – ewch i’n gwefan ni am y newyddion diweddaraf.