Blwyddyn anhygoel arall i gynllun Ein Glannau Gwyllt!

Blwyddyn anhygoel arall i gynllun Ein Glannau Gwyllt!

Our Wild Coast Graduation Day 2019 © Chris Baker

Gall pobl ifanc fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd – beth am ddarllen am beth mae 500 ohonyn nhw wedi bod yn ei wneud dros fywyd gwyllt yn ystod y tair blynedd ddiwethaf?

Yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, nod cynllun ‘Ein Glannau Gwyllt’ yw gwella bywydau a chyfleoedd pobl ifanc yng Ngogledd Cymru drwy eu cael i ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau sy’n gwella amgylcheddau arfordirol ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Hyd yma, mae bron i 500 o bobl ifanc wedi ymwneud â gweithgareddau cadwraeth rheolaidd ers sefydlu’r prosiect yn haf 2016. Rhyngddynt maent wedi cyfrannu at warchod a chreu amrywiaeth enfawr o gynefinoedd naturiol ar draws y rhanbarth. Y flwyddyn ddiwethaf yma fu’r brysuraf hyd yma i ni, gyda gwirfoddolwyr ifanc yn cofnodi cyfanswm anhygoel o 1,806 o oriau gwirfoddol unigol yn ystod y 12 mis diwethaf – mae hynny tua 2.5 mis o waith parhaus, di-stop i helpu i warchod a hybu llefydd diogel i fyd natur!

Our Wild Coast Graduation Day 2019

Our Wild Coast Graduation Day 2019 © Chris Baker

Nodwyd yr achlysur gennym ddydd Sadwrn diwethaf gyda digwyddiad dathlu yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai. Daeth bron i 100 o bobl ifanc, rhieni, athrawon a gweithwyr ieuenctid at ei gilydd i rannu eu profiadau ac i dderbyn tystysgrifau a dyfarniadau yn cydnabod eu cyflawniadau. Cafodd llawer o’r rhai oedd yn bresennol Ddyfarniadau John Muir, sy’n cydnabod yr amser sy’n cael ei dreulio’n archwilio, yn gwarchod ac yn rhannu llefydd gwyllt. Mae’r ffaith ein bod ni wedi cyflwyno mwy o ddyfarniadau nag erioed eleni’n dangos ymrwymiad nodedig y grŵp diweddaraf o bobl ifanc i ddiogelu bywyd gwyllt ac amgylcheddau naturiol.                      

Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o’r heriau amgylcheddol y byddwn yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, ond pobl ifanc ysbrydoledig fel y rhain fydd yn rhoi gobaith i ni ar gyfer y dyfodol.

Mae posib cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a gweithgareddau Ein Glannau Gwyllt drwy ddilyn y prosiect ar Facebook (@OWildCoast).