'Ein Glannau Gwyllt' - Daw'r daith i ben

'Ein Glannau Gwyllt' - Daw'r daith i ben

Ar ôl bron i bum mlynedd o anturiaethau gwyllt anhygoel , mae prosiect Ein Glannau Gwyllt yn dirwyn i ben.

Profodd ddydd Sadwrn 27ain Mawrth yn ddiwrnod emosiynol iawn i dîm ieuenctid YNGC, wrth iddynt ddweud annwyl-ffarwel i “Ein Glannau Gwyllt” prosiect sydd wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth ail-gysylltu nifer o bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru gyda llefydd gwyllt ers i’r prosiect ddechrau yn Haf 2016.

Prif bwrpas y prosiect oedd i helpu meithrin y genhedlaeth nesaf o warchodwr yr amgylchedd ac mynd a gwaith yr Ymddiriedolaeth i gynulleidfa rydym, yn y gorffennol, wedi ymdrechu gyrraedd ond heb fawr o lwc.   Wrth adeiladu ar eu ymrwymiad hefo’r pobl ifanc a phrif egwyddorion Y John Muir Award (Darganfod, Archwilio, Gwarchod, Rhannu), roedd hyn yn galluogi’r tîm i oresgyn llawer o’r rhwystrau sydd yn nodweddiadol o arbed pobl ifanc gysylltu eu hunain mewn gweithgareddau pro-gadwriaethol, ac roeddent yn medru gweithio hefo phobol ifanc o nifer o gefndiroedd gwahanol.  O snorclo i arfordira i dynnu rhedyn a lobïo llywodraeth leol – dyma waith y prosiect, ac yn y diwedd fe gysyllter â’n agos i 2,000 o bobl ifanc – gyda nesaf peth i 600 ohonynt yn mynd ym mlaen i ymrwymiad hir-dymor (3 mis +).

OWC - the journey comes to an end

Dywedwyd un cyfranogwr o’r prosiect -  "Knowing the natural life around me has helped me through these times by deepening that personal connection with the natural life that grows and survives around me every day. The practical conservation has shown me the difficulties we face and how desperately they need tending to. The project has given me the confidence to share the knowledge I have gained to educate other people who hold the earth lower down in their list of priorities."

Er y sialensiau heriol llynedd, brwydrodd y prosiect yn ei flaen.  Cafwyd y digwyddiadau a’r gweithgareddau eu canslo ond fe lwyddodd y tîm, yn ystod yr Haf, redeg swyddi dan hyfforddiant ac roeddent yn ôl yn y maes gyda grwpiai yn yr hydref, yn cynnig cysylltiadau hir-ddisgwyliedig mewn awyrgylch a lleoliadau saff allanol.  Daeth buddiai iechyd a lles, o fod yn yr awyr agored ac ym myd natur, ddod yn flaenllaw unwaith eto, gyda nifer o’r pobl ifanc yn datgan fod y prosiect yn un o’r unig bethau oedd ganddynt i edrych ymlaen ato yn y cyfnod lle nag oeddent yn medru gweld eu ffrindiau neu mynd yma ac acw.

Ni brofodd diwrnod dathlu diwedd y prosiect ar Fawrth 27 ddim yn hollol be gaeth i drefnu, ond diolch i aelodau ein fforwm ieuenctid anhygoel a’r ffaith fod y nifer fawr ohonom wedi arfer mewn cymryd rhan mewn digwyddiadau drwy ein sgriniau, fe lwyddwyd greu diwrnod wedi ei lenwi gyda nifer o sgyrsiau a thrafodaethau, digwyddiadau a gweithdai.  Fe ddaeth y diwrnod i ben drwy ymddangosiad cyntaf o ffilm newydd y prosiect sydd yn fynd at wraidd y prosiect ac sydd yn cyfleu uchelgeisiau’r YNGC ar ran amgylcheddaeth pobl ifanc – cewch wylio yma.

Dywedwyd Rhiant –  "My daughters’ confidence, resilience and desire to learn more has increased so much.  She has had this amazing opportunity, she has been teaching my younger children so much and it has had a knock-on effect on everything, including her wellbeing. It has also made us as a family want to learn more." 

Our Wild Coast conversation

© Dilys Thompson

Felly be nesaf?

Dim ond megis dechrau siwrnai yw hyn i’r YNGC.  Mae gennym brosiect cyffrous newydd amgylcheddol i’r pobl ifanc yn lansio yn hwyrach yn y mis (gwyliwch y gofod hyn!), prosiect fydd yn adeiladu ar sylfaeni a osodwyd gan Ein Glannau Gwyllt a fydd yn ein galluogi ni ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl ifanc.  Mae ein tîm prosiect pobl ifanc dal hefo ni ac fe fyddant yn parhau i gefnogi ymrwymiad amgylcheddol y pobl ifanc ar draws Ogledd Cymru gyfan.

Os hoffech ddarganfod am sut mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau ei gwaith hefo pobl ifanc yna cysylltwch â Chris Baker, Rheolwr Pobl a Bywyd Gwyllt, os gwelwch yn dda, ar chris.baker@northwaleswildlifetrust.org.uk