Gobaith argyfer y dyfodol…

Gobaith argyfer y dyfodol…

Mae pobl yn dod yn fwyfwy ymwybodol o ryng-gysylltedd systemau cefnogi byd natur ein planed ni, a’r ffaith bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ein hecosystemau ni a llesiant a chynaliadwyedd ein cymunedau.

Mae’r egwyddor hon yn sail i gymaint o’n gwaith ni yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac yn egluro pam roeddem wrth ein bodd o glywed y newyddion ein bod wedi cael £2.5 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i arwain ar brosiect gweithredu hinsawdd cymunedol newydd ledled Cymru gyfan dan arweiniad ieuenctid.

Mae ‘Climate CHANGE Cymru’ yn adeiladu ar lwyddiant ein gwaith amgylcheddol presennol yn ymgysylltu ag ieuenctid o dan faner ‘Ein Glannau Gwyllt’, a bydd yn ein galluogi i ddatblygu hyn yn sylweddol yn ystod y pedair blynedd nesaf. Yn wir, ein fforwm amgylcheddol ni o dan arweiniad ieuenctid ar Ynys Môn, ‘Môn Gwyrdd’, ddatblygodd y cynnig gyda ni, ac a fydd nawr yn darparu’r templed ar gyfer sefydlu fforymau ieuenctid newydd mewn ardaloedd ym Mhowys, Ceredigion a de-ddwyrain Cymru. Am y tro cyntaf yn ein hanes ni, bydd holl Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn cydweithio i ddarparu ymgysylltu cymunedol sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt – mae’n gyffrous iawn gweithio ar raddfa o’r fath!

Fel partneriaeth, byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc Cymru i gofnodi a datblygu eu pryderon am newid yn yr hinsawdd ac yn eu grymuso i weithredu i leihau ôl troed carbon eu cymunedau a sicrhau budd i fywyd gwyllt lleol ar yr un pryd. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys plannu gwrychoedd; creu toeau gwyrdd, waliau gwyrdd a gerddi glaw; gosod bocsys adar ac ystlumod yn eu lle; sefydlu pyllau a pherllannau cymunedol; ac ailgysylltu mannau gwyrdd/eu troi’n wyllt unwaith eto. Bydd cyfle hefyd am hyfforddiant ac achrediad ffurfiol, ac uwchgynhadledd ieuenctid genedlaethol flynyddol i ddod ag amgylcheddwyr ifanc o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i rannu eu syniadau a dathlu llwyddiannau.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol am roi’r cyfle anhygoel yma i ni, ac i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ei wneud yn bosib. Rydym yn cael cysur mawr wrth feddwl eu bod hwy, ac eraill, yn y cyfnod ansicr yma’n parhau’n fodlon i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prosiectau arloesol sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â Chris Baker (Rheolwr Pobl a Bywyd Gwyllt) ar chris.baker@northwaleswildlifetrust.org.uk, a gweithredu cadwch lygad ar ein gwefan ni a’n sianelau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o newyddion am brosiect Climate CHANGE Cymru yn ystod y misoedd nesaf!