Adeiladu adre am gwenoliaid duon

Adeiladu adre am gwenoliaid duon

Swift © Stefan Johansson

Mae cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru Adra, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn gosod bocsys gwenoliaid ar stad dai Bangor tra’n gwneud gwaith adnewyddu allanol.

Gweithio gyda'r prif gontractwr penodedig W.F. Clayton Ltd a thrigolion Toronnen, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi darparu bocsys nythu arbennig ar gyfer gwenoliaid duon, sydd wedi'u gosod yn yr inswleiddiad allanol ar y tai.

Dywedodd Sara Williams, Rheolwr Prosiect yn Adra: “Rydym yn hynod falch o gael y cyfle i gydweithio ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac o ganlyniad gallu helpu’r gwenoliaid du i oroesi a ffynnu yn ardal Bangor lle rydym yn gwella ansawdd ac edrychiad ein cartrefi.”

White swift box on a wall, under the eaves of a house

© Adra

Ben Stammers, North Wales Wildlife Trust's swift action project officer says: “Mae’r bocsys  yn ail-greu’r math o lleoedd caeedig mae gwenoliaid duon eisoes yn nythu ynddynt, a’r gobaith yw y bydd yn creu cyfleoedd i boblogaeth wenoliaid Toronnen ehangu.

“Gwennoliaid duon yw'r adar cyflymaf wrth hedfan, ac maent yn treulio bron eu holl oes ar yr adain. Maent yn teithio yn ôl o Affrica bob blwyddyn i nythu, ond yn anffodus, mae gwenoliaid duon bellach yn un o’r rhywogaethau adar sydd wedi prinhau fwyaf yng Nghymru (72% i lawr ers 1995), ac yn diflannu o lawer o drefi a phentrefi. Ym Mangor, dim ond llond llaw o safleoedd lle maent yn dal i nythu, a'u cadarnle olaf yw ardal Toronnen/Coed Mawr.

“Rydw i wedi cael fy nghalonogi gan ymateb y trigolion, mae’n ymddangos bod pobl wir yn gwerthfawrogi’r adar hynod gyflym hyn, ac eisiau eu helpu trwy gael bocsys nythu. Gyda’r opsiynau nythu ychwanegol hyn, gadewch i ni obeithio y bydd mwy o wenoliaid duon yn gallu bywiogi’r awyr uwchben Toronnen yn y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gael yn: Adfer y gwenoliaid duon.

 

 

The Adra housing association logo

© Adra