Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Have-a-go T-bay Oct 2025 (7)

Have-a-go T-bay Oct 2025 (7) © NWWT

Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Lleoliad:
Trearddur Bay, LL65 2UN, Ynys Môn
Rhowch gynnig ar ein harolygon ni o lannau creigiog ledled Gogledd Cymru

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ardal o flaen adeilad yr RNLI, Bae Trearddur, Ynys Môn, LL65 2UL. Grid ref: SH 25396 79156. What3Words///soulful.goods.shuttling

Dyddiad

Time
3:00pm - 4:45pm
A static map of Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dyma gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch ni a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n eich siwtio chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi'r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan er mwyn sefydlu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig) - byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd arnoch ei angen!

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
 

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig)
Rhaid Cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Cŵn tywys yn unig

Symudedd

Mae toiledau yn agos at y lan yn y maes parcio mawr yng nghefn y prif draeth.

Mae'r traeth yn donnog ac yn greigiog iawn gyda chreigiau wedi'u gorchuddio ag algâu a phyllau creigiog yn ardal yr arolwg. Mae’r mynediad i'r traeth i lawr llithrfa ac ar draws cerrig mân ac ardal lithrig o draeth creigiog.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd ac yn agos i'r lan hon: https://www.traveline.cymru/
 

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn

Beth i'w ddod

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer pobl 16+ oed yn unig. Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac ar gyfer penlinio ar draeth gwlyb. Bŵts neu welingtyns yw'r esgidiau mwyaf addas.

Nodyn: nodwch yr union fan cyfarfod gan ddefnyddio'r cyfeirnod grid neu wybodaeth what3words. Nodwch hefyd rif ffôn symudol arweinydd y digwyddiad rhag ofn y bydd problemau ar y diwrnod.

i

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584