Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Survey volunteers on a sand and rocky beach, crouched down with clipboards and looking at a square grid. Behind them small waves of the sea meet the sand.

Surveyors Shoresearch Llanfairfechan © NWWT

Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Lleoliad:
Rhos on sea, Beachfront opposite Abbey drive, Conwy, LL28 4HT
Rhowch gynnig ar ein harolygon ni o lannau creigiog ledled Gogledd Cymru

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ar ben y stepiau i lawr i'r traeth, gyferbyn ag Abbey Drive, Llandrillo-yn-Rhos, LL28 4HT. Grid ref: SH 83937 81258. What3Words///super.author.acid
View on What3Words

Dyddiad

Time
4:15pm - 6:00pm
A static map of Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dyma gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch ni a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n eich siwtio chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi'r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan er mwyn sefydlu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig) - byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd arnoch ei angen!

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru
Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig)

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig

Cŵn cymorth sy'n gweithio yn unig.

image/svg+xml

Symudedd

Mae'r lan yn garegog iawn gyda chreigiau wedi'u gorchuddio ag algâu a phyllau creigiog yn yr ardal arolygu. Mae mynediad i'r lan i lawr stepiau ac ar draws cerrig crynion i ardal o lan greigiog, lithrig.

Does dim toiledau yn agos at y traeth.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn agos at y traeth yma, cofiwch wirio: https://www.traveline.cymru/

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer pobl 16+ oed yn unig. Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac ar gyfer penlinio ar draeth gwlyb. Bŵts neu welingtyns yw'r esgidiau mwyaf addas.

Nodyn: nodwch yr union fan cyfarfod gan ddefnyddio'r cyfeirnod grid neu wybodaeth what3words. Nodwch hefyd rif ffôn symudol arweinydd y digwyddiad rhag ofn y bydd problemau ar y diwrnod.
 

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584