Ras adar Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 2026

A girl stood on a grassy cliff facing left with binoculars looking down into a cove. Behind her, 3 boys are lying down near the cliff slope on their fronts to get a better view. A small cove with stony beach is visible to the left below them, and a wide blue sea behind them.

Ocean Rescue Champs, seal watching at Porth Dinllaen © Jayke NWWT

Ras adar Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 2026

Lleoliad:
North Wales Wildlife Trust, Head Office, Llys Garth, Garth Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Ffurfiwch dîm efo teulu, ffrindiau, neu wylwyr adar arall a chymryd rhan mewn ras i ddod o hyd o rywogaethau adar ar ein gwarchodfeydd!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cynhaliwyd y ras mewn timoedd yn eich hardal eich hun. Penderfynwch, os gwelwch yn dda, lle y byddech yn cyfarfod eich tîm, ac anwybyddwch y lleoliad sydd yn cael ei grybwyll yma.

Dyddiad

Time
12:01am - 11:59pm
A static map of Ras adar Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 2026

Ynglŷn â'r digwyddiad

Caiff teuluoedd, ffrindiau, a gwylwyr adar eraill eu gwahodd i ffurfio tîm i weld faint o rywogaethau o adar y gallant eu gweld mewn 24 awr ar draws unrhyw un o'r 35 gwarchodfa natur leol y mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gofalu amdanynt.

Mae Ras Adar Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed, o ddechreuwyr i arbenigwyr adar, fynd allan i'r awyr agored ac archwilio'r bywyd cyfoethog o ran adar sydd yma yng Ngogledd Cymru. Faint o fathau o adar allwch chi eu gweld? O weilch y pysgod yng Nghors Maen Llwyd, glas y dorlan yn Llyn Celanedd neu regennog dŵr yng Ngwarchodfa Natur Big Pool Wood.

I gymryd rhan yn y ras adar bydd angen i chi:

  • Ffurfio tîm
  • Dewis rhanbarth (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy neu ranbarth cyfunol Sir y Fflint a Sir Ddinbych) a dewis eich gwarchodfa.
  • Cofrestrwch drwy Eventbrite

Rhaid i’r timoedd fod o leiaf 2 person, ond dim uchafswm, ond fydd rhaid i chi aros hefo’ch gilydd am y holl ras, felly nid ydym yn awgrymu grwpiau mawr.

Fe fydd gennych 24 awr i gofnodi cyn gymaint o rywogaethau adar ac y medrwch.

Fe fydd pob rhywogaeth a gofnodwyd yn helpu gyda hel data, felly hyd yn oed os ydych yn arbenigwr neu yn ddechreuwr mae’r ras yn ffordd gwych i ymuno hefo’r gwaith ymchwil neu cychwyn/ailgychwyn traddodiad hwyliog.

Llwythwch eich pecyn cofrestru am ddim i lawr yma a pecyn gwybodaeth yma.

NODYN: Mae cofrestru ar gyfer cofnodi data adar trwy Cofnod yn cau ar 28ain o Fai.

Bwcio

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Er mwyn derbyn pecyn gwybodaeth llawn a sut i gofrestru eich darganfyddiadau ar wefan Cofnod mae cofrestru yn hanfodol. Fe fydd rhaid i chi gofrestru enw eich tîm ac y niferoedd o aelodau. Dim ond un “tocyn” y tîm sydd angen i gofrestru.

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn

Mae y rhan fwyaf o’n gwarchodfeydd yn caniatáu cŵn, ond fe fydd rhaid iddynt fod ar dennyn, yn enwedig ble mae adar yn nythu ar y ddaear.

Edrychwch ar y tudalennau gwarchodfeydd perthnasol os gwelwch yn dda, a dilynwch y cyngor os am fynd â’ch ci.

image/svg+xml

Symudedd

Awgrymwn eich bod yn edrych ar ein tudalennau gwarchodfeydd ar ein gwefan am yr ardal sydd gennych o dan sylw oherwydd mae rhai gwarchodfeydd yn haws i fynd atynt.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â'ch ysbienddrych/telesgopau eich hun ac unrhyw fwyd neu ddiod y bydd ei angen arnoch chi drwy gydol y dydd.

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

Cysylltwch â ni

Luke Jones
Rhif Cyswllt: 07764897414