Peter Cairns/2020VISION
Mae gan 21ain Gŵyl Gerdded Prestatyn a Bryniau Clwyd flynyddol 21 o ddigwyddiadau yn digwydd dros dridiau gyda rhywbeth o ddiddordeb i bawb.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Beth am ddod draw i archwilio ein gwarchodfeydd natur ni? Fel rhan o'r digwyddiadau cerdded, mae cyfle i chi fynychu taith gerdded dywys mewn dwy o'n gwarchodfeydd natur.
Gwarchodfa Natur Y Graig ger Tremeirchion ar ddydd Sadwrn 16 Mai.
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood ger Gronant ar ddydd Sul 17 Mai.
Mae'r holl deithiau cerdded wedi'u graddio ar gyfer gwahanol alluoedd a dylai fod rhywbeth i bawb.
Mwy o wybodaeth ar wefan yr ŵyl yma.