Diwrnod ffotograffiaeth bywyd gwyllt proffesiynol.

BLUE 24 osprey

BLUE 24 osprey © Gary Jones wildlife photography

Diwrnod ffotograffiaeth bywyd gwyllt proffesiynol.

Lleoliad:
Llyn Brenig, Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT
Ymunwch â'r ffotograffydd bywyd gwyllt proffesiynol Gary Jones am gyfle unigryw i gofnodi'r adar amrywiol o amgylch Llyn Brenig.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ystafell Osprey Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Cerrigydrudion, Conwy LL21 9TT- What3words: ///glorious.tango.usages

Dyddiad

Time
10:00am - 3:30pm
A static map of Diwrnod ffotograffiaeth bywyd gwyllt proffesiynol.

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch i dreulio'r diwrnod yn Llyn Brenig gyda Gary Jones, ffotograffydd bywyd gwyllt proffesiynol. Bydd Gary yn treulio'r diwrnod gyda grŵp bach o 4 o unigolion, gan roi cyngor, awgrymiadau a chynghorion ar sut i wella eich ffotograffiaeth o adar.

Mae gan Lyn Brenig amrywiaeth o adar y gallwch chi ymarfer eich sgiliau adarydda a ffotograffiaeth arnynt, gan gynnwys y gweilch y pysgod sy’n byw yno. Meddai Gary: “Er fy mod yn hoffi tynnu lluniau pob math o fywyd gwyllt mae well gen i dynnu lluniau adar, yn enwedig adar ysglyfaethus, a’n hoff adar yw Gweilch y pysgod.” 

Bydd Gary yn rhoi cyflwyniad yn y ganolfan ymwelwyr cyn mynd allan gyda’r grŵp i edrych ar a thynnu lluniau adar amrywiol y Brenig, gan gynnwys ymweliad â chuddfan y gweilch y pysgod, 150m oddi wrth y nyth.

Dewch i rannu angerdd Gary a gobeithio y byddwch chi'n dal y clwy hefyd! Mae'r diwrnod yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr o bob lefel.

Mwy o wybodaeth am Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Gary Jones yma.

Bwcio

Pris / rhodd

£150

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn

Mae gweilch y pysgod yn rhywogaeth atodlen 1, ac er mwyn lleihau'r tarfu nhw wrth iddyn nhw nythu, yn anffodus nid yw cŵn yn cael eu caniatáu yn y guddfan.

image/svg+xml

Symudedd

Mae’r guddfan gweilch y pysgod yn hygyrch, ond gyda llwybr graean yn arwain ati a allai fod yn anaddas i rai.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae angen dillad cynnes ac esgidiau cryf. Dewch â'ch cit ffotograffiaeth eich hun.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae ffi i’w dalu am barcio.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Siop
Caffi / lluniaeth
Toiled i'r anabl

Cysylltwch â ni

Sarah Callon
Rhif Cyswllt: 07949608486