Môr-wenoliaid

Common tern

Common tern - Ed Marshall

Ble mae gweld môr-wenoliaid

Canllaw ar gyfer Adnabod Morwenoliaid

Môr-wenoliaid

Yn ystod yr haf, mae sawl rhywogaeth o fôr-wenoliaid yn dychwelyd i nythu ar ein glannau ni, a mwy a mwy ar ynysoedd a chronfeydd dŵr mewndirol. Yn debyg i wylan fechan, gain, gyda chynffon hir yn debyg i wennol, ac adenydd main a phen du yn cyferbynnu â’r plu arian a llwyd, mae gwahaniaethau bychain yn ein galluogi ni i ddweud y gwahaniaeth rhwng y pum rhywogaeth sy’n nythu yma. Y fôr-wennol ehangaf ei dosbarthiad yw’r fôr-wennol Gyffredin, ond er gwaethaf ei henw, nid dyma’r fôr-wennol fwyaf cyffredin; môr-wennol y Gogledd, perthynas agos, sydd piau’r teitl hwnnw. Ar hyd arfordir Gogledd Cymru, mae’r fôr-wennol Bigddu fwy i’w gweld yn aml yn ystod misoedd yr haf, gan ei bod yn bwydo mewn dyfroedd arfordirol bas.

Mae poblogaeth o fôr-wenoliaid yn un swnllyd a phrysur, gyda’r adar yn mynd a dod drwy’r amser; oedolion yn dod â physgod yn ôl i’w cywion neu eu cymar sy’n eistedd ar y nyth, adar ifanc yn galw am eu rhieni, ac oedolion blin yn erlid aflonyddwyr gyda’u pigau fel dagr. 

Chwilio am fôr-wenoliaid

Ein llecyn gorau ni i weld yr adar yma yw Gwarchodfa Natur Cemlyn ar Ynys Môn. Wedi’i wahanu oddi wrth y môr gan esgair naturiol drawiadol o ro mân o’r enw Esgair Cemlyn, y môr-lyn hwn yw’r gefnlen i olygfa bywyd gwyllt enwocaf Cemlyn: poblogaeth fawr o bwysigrwydd rhyngwladol o adar môr. Bydd cyfle i weld yr adar cain yma’n agos o’r man gwylio ar yr esgair. Cewch eu gweld yn erlid ac yn deifio wrth garu; yn deor eu hwyau; yn twtio’u plu ac yn ymolchi yn y môr-lyn; neu’n galw ar gywion llwglyd wrth ddychwelyd i’r nyth gyda physgod ffres. Yr amser gorau i ymweld â’r safle yma yw rhwng misoedd Mai a Gorffennaf, pryd bydd y wardeiniaid ar y safle i roi llawer mwy o wybodaeth i chi.

Cemlyn Nature Reserve infographic

Cylchdaith rhithiol

Darganfyddwch beth sydd yn wneud Gwarchodfa Natur Cemlyn y le mor wych i’r Môr-wenoliaid a beth rydym yn wneud i helpu nhw i ymgartrefu yno! Cymrwch daith rhithiol gyda ein infograffig rhyngweithiol (gyda diolch i brosiect LIFE Roseate Tern).

Cylchdaith rhithiol

Beth i gadw llygad amdano

Un o’r ffyrdd hawsaf i ddweud y gwahaniaeth rhwng y gwahanol rywogaethau o fôr-wenoliaid yw drwy edrych ar eu pigau. Coch fel moron gyda blaen du – môr-wennol gyffredin; coch fel gwaed – môr-wennol y Gogledd; du gyda blaen melyn (a chrib du blewog) – rydych chi’n edrych ar fôr-wennol Bigddu; tra bo pig y fôr-wennol fechan fach yn felyn gyda blaen du, a thalcen gwyn. Gofalus: bydd môr-wenoliaid yn fwy na pharod i droi arnoch chi os byddwch yn aflonyddu arnynt, felly peidiwch â mynd yn rhy agos, neu ewch â ffrind ychydig yn dalach gyda chi efallai.            

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur we-gamerâu byw yng nghanol dwy boblogaeth o fôr-wenoliaid mewn rhannau eraill o’r DU, gan drosglwyddo lluniau byw yn ystod yr haf o Ynys Brownsea yn Dorset a Basn Montrose yn yr Alban.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.