Sicrhau Bod Pawb yn Gallu Cael Mynediad at Eich Grŵp neu Brosiect

Sicrhau Bod Pawb yn Gallu Cael Mynediad at Eich Grŵp neu Brosiect

Katrina Martin/2020VISION

Mae angen pethau gwahanol ar wahanol bobl i'w helpu i gymryd rhan yn gyfartal mewn grŵp.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae angen pethau gwahanol ar wahanol bobl i'w helpu i gymryd rhan yn gyfartal mewn grŵp. Bydd angen cymorth ychwanegol ar rai pobl. Bydd angen dileu rhwystrau i bobl eraill.

Aaron from Lincolnshire Voluntary Centre Services talks about how to make sure everyone can access your project.

Ni fydd yr wybodaeth yma'n ymdrin â hygyrchedd mewn digwyddiadau. Mae honno’n ddogfen ar wahân.

Y nod yw adnabod a dileu rhwystrau - ond hefyd creu a chefnogi mynediad cyfartal.

Mae Comisiwn Hawliau Anabledd 2002 yn dweud bod amgylchedd cynhwysol fel a ganlyn:

  • hawdd ei ddefnyddio gan gynifer o bobl â phosibl, heb fod angen triniaeth arbennig na bod ar wahân
  • gallu cynnig y rhyddid i bobl ddewis sut i gael mynediad iddo a'i ddefnyddio, a chaniatáu iddynt gymryd rhan gyfartal ym mhob gweithgaredd
  • gallu cofleidio amrywiaeth a gwahaniaeth
  • diogel
  • clir a rhagweladwy
  • o ansawdd uchel.

Meddyliau ymarferol

Ni fydd yr holl faterion yma’n berthnasol i bob prosiect. Ond os yw eich prosiect y tu mewn, y tu allan, dros dro neu'n barhaol, bydd angen ei gynllunio'n ofalus.

Rhaid cynnwys pawb yn y cynllunio. Er enghraifft, peidiwch â chymryd yn ganiataol beth sydd ei angen ar bobl ag anawsterau dysgu fel un grŵp – mae hynny’n rhy gyffredinol. Gofynnwch i bobl o bob cefndir eich helpu chi. Edrychwch ar yr adran Dolenni Defnyddiol ar ddiwedd y ddogfen yma.

Mynediad corfforol:

Oes angen ramp arnoch chi? Os oes ramp, a yw'n serth?

Ydi’r llwybrau cerdded yn ddigon llydan? Fedr bygi neu gadair olwyn droi'n hawdd?

Ydi'r arwyneb yn arw? Gall rhai cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ymdopi â thir garw. Oes unrhyw le gerllaw y gall pobl logi sgwteri awyr agored, sy’n cael eu galw yn aml yn “trampwyr”?

Oes amrywiaeth o seddi, gan gynnwys mynediad i gadeiriau olwyn wrth fyrddau grŵp?

Ydi'r arwyddion yn glir? Oes angen arwyddion graffig, symbolau neu braille arnoch chi?

Pa mor agos yw'r maes parcio hygyrch agosaf? Oes arwyddion da ato?

Ble mae'r toiledau agosaf? Ydyn nhw'n hygyrch? Oes ganddyn nhw gyfleusterau newid cewynnau babi?

Problemau mynediad eraill:

Pa mor ddiogel mae pobl yn teimlo yno ar wahanol adegau o’r diwrnod neu’r wythnos?

A yw'n ddiogel i bobl o liw? I ferched? I bobl ag anableddau? I aelodau o'r gymuned LGBTQI+? I bobl hŷn? I bobl ifanc? I’r rhai o amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd? Peidiwch â chymryd yn ganiataol - gofynnwch!

Ydi eich holl gyfathrebu yn hygyrch? Ar gael mewn meintiau ffont gwahanol? Ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddarllen? Ar gael fel ffeiliau sain? Ar gael mewn ieithoedd eraill?

Ni allwch wneud popeth!

Oni bai eich bod yn creu gofod o'r dechrau un, ni fyddwch yn gallu ei wneud yn gwbl gynhwysol a hygyrch i bob person sy'n bodoli. Ond nid yw hynny'n rheswm i beidio â rhoi cynnig arni!

Siaradwch â'r bobl sydd eisiau'r gofod. Siaradwch â phobl sy'n byw ger y gofod. Gwnewch beth bynnag y gallwch chi.

Dolenni defnyddiol

Dod o hyd i doiled hygyrch – neu ddefnyddio’r ymgyrch yma i bwyso ar eich ardal leol i gael un!

Canllawiau defnyddiol iawn yma ar gynnwys pobl ag anableddau yn Disability Rights UK.

Cysylltwch â’r Sefydliadau Pobl Anabl neu Fforymau Cymunedol Anabledd lleol yn eich ardal – defnyddiwch beiriant chwilio i deipio enw eich ardal a’ch DPO.

Mae Mencap yn wych ar gyfer gwybodaeth am bobl ag anableddau dysgu. Dechreuwch yma, gyda sut i gyfathrebu ac wedyn dod o hyd i’ch partneriaid lleol yma.

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40