Codi arian i ni

Cakes
Ein cefnogi ni

Codi arian i ni

Bod yn wyllt a chodi arian!

Os ydych chi ffansi cynnal stondin gacennau neu blanhigion; cwblhau taith gerdded, nofio neu ganŵio noddedig neu ddim ond enwebu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel yr elusen o’ch dewis ar gyfer ffair leol neu garnifal, bydd pob ceiniog fyddwch chi’n ei chodi’n mynd tuag at warchod bywyd gwyllt a llefydd gwyllt ledled Gogledd Cymru.

Does dim rhaid i chi ddweud wrthym ni os ydych chi’n codi arian i ni, ond byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Fe allwn ni ddarparu ffurflenni nawdd; tudalennau codi arian ar ein gwefan ni neu gyngor am greu eich tudalen eich hun; a’ch helpu chi i hyrwyddo beth rydych chi’n ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol.

Creu tudalen codi arian

Sut i sefydlu tudalen codi arian pen-blwydd ar Facebook

  1. Ewch i dudalen codi arian Facebook
  2. Cliciwch ar "Dewis Elusen" – rydyn ni wedi ein rhestru fel Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  3. Dewiswch faint rydych chi eisiau ei godi
  4. Penderfynwch pryd yr hoffech i'ch digwyddiad codi arian ddod i ben
  5. Gallwch olygu'r testun neu'r llun - ac yna cliciwch "Creu"!
Walk for wildlife

Pecyn Codi Arian Gwyllt

Lawrlwythwch eich un chi!

Dyma rai pethau allweddol i feddwl amdanynt er mwyn rhoi cychwyn i chi:

  • Pa fath o weithgaredd neu ddigwyddiad yr hoffech ei wneud.  Edrychwch ar rai o’r syniadau codi arian yn y canllaw am ysbrydoliaeth!
  • Pryd rydych chi’n bwriadu ei wneud – a fydd yn digwydd ar un diwrnod neu dros wythnos gyfan? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis dyddiad ymhell ymlaen llaw fel eich bod yn gallu rhoi gwybod i bawb amdano!
  • Ble fydd yn digwydd
  • Pwy fyddwch chi’n eu gwahodd i wylio, i gymryd rhan, neu i’ch noddi
  • Os yw eich gweithgaredd yn yr awyr agored, bydd angen i chi wirio’r tywydd a phenderfynu a fydd yn effeithio ar eich cynlluniau.

Gallwch ddarllen mwy am sut i hyrwyddo eich digwyddiad codi arian, yn ogystal â sut i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel, yn ein canllaw codi arian!

Straeon ein cefnogwyr!

Marathon gwyllt Robin

Robin Sandham

Dathlodd Robin droi'n 40 oed drwy redeg marathon o amgylch Ynys Gybi er budd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru! Helpodd cyfyngiadau symud Covid-19 iddo sylweddoli pa mor arbennig yw ei warchodfeydd natur lleol – ac roedd eisiau chwarae ei ran mewn helpu i ofalu amdanynt. Cododd fwy na £500 tuag at ein gwaith - diolch, Robin, a phawb wnaeth dy gefnogi di!

Ysgrifennodd Robin ...
"Robin ydw i, rydw i'n byw yng Ngogledd Cymru ac rydw i’n gadwriaethwr, yn adarwr ac yn fodrwywr adar lleol. Rydw i'n feiciwr brwd ac yn rhedwr hefyd, ac yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19 fe lwyddais i ddal ati gyda fy ngweithgareddau a chynyddu'r pellteroedd yn raddol, felly rydw i'n bwriadu rhedeg marathon cyn i mi droi'n 40 – a dweud y gwir, fe fyddaf yn rhedeg o amgylch Ynys Gybi gyda dim ond diwrnod wrth gefn cyn y diwrnod mawr! Fe wnaeth y cyfyngiadau symud arafu bywyd hefyd, ac fe welais i 'mod i'n cerdded mwy; gan sylwi mwy ar fywyd gwyllt wrth fynd.  Roeddwn i'n gwybod 'mod i'n lwcus o fod â thair gwarchodfa gan YNGC o fewn pellter cerdded i mi, ac fe wnaeth i mi sylweddoli pa mor arbennig yw'r rhain, a'r llefydd eraill doeddwn i ddim yn gallu mynd iddyn nhw – felly roeddwn i eisiau chwarae rhan fach i helpu.  Dilynwch fi ar Twitter @birdsandbike ac Instagram @robinsandham a thudalennau YNGC i gael gwybod am fy rhedeg. Diolch yn fawr!"

Bass - rwyfo'n wyllt

Bass Andre

Gwnaeth Bass a rhai ffrindiau rwyfo (dan do!) y pellter o amgylch Ynys Môn – cyfanswm o 225km – i codi arian i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru cyn gadael yr ardal i astudio yn UDA. Treuliodd Bass ei lleoliad fel myfyriwr gyda'r Ymddiriedolaeth wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, a gwnaeth hi dreulio pedwar mis yn gwirfoddoli'n llawn amser – gan gadw Katy a Matt yn brysur iawn a chynnal ysbryd pawb!

Ysgrifennodd Bass ...
"Helo, Bass ydw i, ac rydw i'n wirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Fe wnes i dreulio fy lleoliad fel myfyriwr gyda'r Ymddiriedolaeth wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac rydw i wedi treulio'r pedwar mis diwethaf yn gwirfoddoli'n llawn amser wrth aros i ddechrau dilyn fy Nghwrs Meistr yn UDA. Mae fy nghydweithwyr a mi wedi penderfynu rhwyfo'r pellter o amgylch Ynys Môn (cyfanswm o 225km!) cyn i mi adael ar 12 Rhagfyr. Fi ydi'r unig un sydd â phrofiad rhwyfo, felly byddaf yn dysgu'r lleill sut i rwyfo o'r newydd (dymunwch bob lwc i mi!). Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ddaeth â ni at ein gilydd ac mae’n gofalu am rai gwarchodfeydd trawiadol iawn, felly cefnogwch y gwaith mae’n ei wneud drwy ein noddi ni!"

Y darn technegol …

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd eisiau ac yn dewis codi arian i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – rydych chi i gyd yn anhygoel!

Fel sefydliad sydd wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ac sy’n falch o ddilyn y Cod Ymarfer Codi Arian, mae’n bwysig i ni dynnu eich sylw at y datganiad canlynol: “Mae unrhyw un sy’n gwirfoddoli i godi arian i gefnogi ein gwaith yn gwneud hynny ‘er budd’ yn hytrach nag 'ar ran' Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oni bai yr awdurdodir yn benodol fel arall, a rhaid osgoi creu unrhyw argraff i'r gwrthwyneb. (Y diffiniad technegol o ‘er budd’ yw ‘gwirfoddolwr sy’n codi arian naill ai ar ei ben ei hun neu gydag eraill ar gyfer sefydliad elusennol yn annibynnol ar y sefydliad elusennol’; yn hytrach nag ‘ar ran’, a ddiffinnir fel ‘Gwirfoddolwr sy’n gweithio gyda ac sydd o dan gyfarwyddyd sefydliad elusennol i godi arian ar ei ran ac yn ei enw.’)  Mae hyn hefyd yn golygu, er y byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i helpu i hyrwyddo ymdrechion codi arian unigolyn, bod angen i godwyr arian fod yn gyfrifol am drefnu pob agwedd ar eu codi arian a deall na fydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd yn ymwneud ag ef.”

Mae mwy o gyd-destun ar gael yma.