Bwydo neu beidio â bwydo? Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn ar hyn o bryd gan rai bobl sy'n hoff iawn o adar. Mae bwydo adar yr ardd yn rhoi pleser i filiynau o bobl ledled y DU. Mae hefyd yn gallu helpu i gynnal adar pan mae bwyd naturiol yn anodd dod o hyd iddo.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pryderon cynyddol wedi bod ynghylch y rôl y mae teclynnau bwydo adar yn ei chwarae wrth ledaenu clefydau.<
Mae adolygiad tystiolaeth newydd gan yr RSPB, gyda chefnogaeth sefydliadau eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, wedi tynnu sylw at beryglon bwydo adar yr ardd. Fe wnaethon nhw ddod o hyd i dystiolaeth gref bod bwydo adar yn hyrwyddo lledaeniad clefydau. Mae hyn yn cynnwys trichomonosis, clefyd sy’n cael ei achosi gan y parasit, Trichomonas gallinae.
Mae'r clefyd yma wedi achosi dirywiad difrifol yn ein poblogaethau ni o’r llinos werdd a’r ji-binc. Fel arfer mae'n effeithio ar y gwddw a'r llwnc, gan ei gwneud yn anodd i adar lyncu bwyd. Wrth iddyn nhw ailchwydu bwyd neu ddŵr, efallai y byddan nhw’n ei ledaenu i adar eraill.
O ganlyniad i'r adolygiad tystiolaeth yma, mae'r RSPB wedi diweddaru ei ganllawiau ar fwydo adar yr ardd. Rydyn ni’n gwybod bod ein bywyd gwyllt ni’n ei chael yn anodd, felly mae'n bwysig ein bod ni’n cadw at dystiolaeth wyddonol os ydyn ni eisiau helpu byd natur i adfer. Gallwch ddarllen canllawiau llawn yr RSPB ar eu gwefan, ond y prif gyngor i'w ddilyn yw bwydo'n dymhorol ac yn ddiogel.
Bwydo’n dymhorol
Mae'r ymchwil wedi darganfod bod y risg fwyaf o ledaenu clefydau’n bodoli yn yr haf a'r hydref. Rhwng 1 Mai a 31 Hydref, ni ddylech gynnig hadau a chnau daear, er mwyn atal gormod o adar rhag ymgynnull mewn un lle. Gallwch eu rhoi yn ôl ar y fwydlen o fis Tachwedd i fis Ebrill, pan fydd y risg o glefyd yn is a ffynonellau bwyd naturiol yn anoddach dod o hyd iddyn nhw.
Mae'n iawn cynnig ychydig bach o siwet, peli braster a chynrhon blawd, a’u cynnig nhw’n gymedrol gan ddefnyddio teclynnau bwydo crog, ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, er dylai'r rhain ategu ffynonellau bwyd naturiol fel planhigion llawn aeron a hadau lle maen nhw ar gael.
Bwydo’n ddiogel
Mae cadw at y wyddoniaeth yn golygu ei bod hi'n amser ffarwelio â byrddau adar a theclynnau bwydo fflat eraill. Mae ymchwil yr RSPB wedi dangos eu bod yn creu risg lawer uwch o ledaenu clefydau.
Mae hefyd yn bwysig iawn cadw teclynnau bwydo crog yn lân. Dylid eu glanhau bob wythnos ac, yn ddelfrydol, eu symud i leoliad gwahanol, i atal bwyd wedi’i lygru rhag cronni oddi tanyn nhw. Rhowch ychydig o fwyd yn aml i leihau gwastraff, a chlirio unrhyw hadau neu blisg sydd wedi syrthio ar y llawr. Os oes gennych chi fath adar, dylech lanhau hwnnw'n wythnosol hefyd, a newid y dŵr bob dydd.
Os gwelwch chi aderyn ar eich teclynnau bwydo sy'n edrych fel pe bai ganddo glefyd (yn sâl), dylech roi’r gorau i fwydo'r adar am bythefnos a glanhau pob teclyn bwydo’n drylwyr. Mae hyn yn gallu helpu i atal lledaeniad clefydau.
Cael cyngor ar lanhau teclynnau bwydo a bocsys nythu
Darparu bwyd naturiol
Un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i adar a bywyd gwyllt arall ydi creu ffynonellau bwyd naturiol.
Mae gan adar chwaeth amrywiol, gyda'r rhan fwyaf yn bwydo ar wahanol bethau drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw wedi esblygu i fanteisio ar beth sydd ar gael, gan gynnwys yn ein gerddi a'n llecynnau gwyrdd lleol ni.
Mae pryfed, pryfed genwair ac infertebrata eraill yn hanfodol i'r rhan fwyaf o adar, yn enwedig yn y gwanwyn a'r haf pan maen nhw’n magu cywion.
Mae lindysyn brasterog, suddlon wedi'i dynnu o lwyn neu bentwr o ddail yn gwneud pryd bwyd llawer gwell nag unrhyw beth y gallwn ni ei roi mewn teclyn bwydo adar.
Drwy gydol yr hydref a'r gaeaf, bydd llawer o adar yn chwilio am hadau, cnau ac aeron. Mae digon o blanhigion fedr ddarparu'r rhain mewn gerddi. Os ydych chi'n barod i droi eich gardd gyfan yn wyllt, neu ddim ond eisiau cornel wyllt, mae llawer o gyngor ar gael ar gyfer darparu bwyd sy’n fwy naturiol.
Pŵer natur ar garreg ein drws
Sut bynnag fyddwch chi'n croesawu bywyd gwyllt i'ch gardd, balconi neu gymuned, mae pob gweithred fach yn helpu. Gyda'i gilydd mae ein gerddi ni'n gorchuddio ardal sy'n fwy na'r holl Warchodfeydd Natur Cenedlaethol gyda'i gilydd ac mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chwarae wrth helpu byd natur a phobl i ffynnu.
Er bod bywyd gwyllt mewn trafferth mawr, rydyn ni'n gwybod y gall gweld byd natur ar garreg ein drws ni ddod â phleser mawr a sicrhau budd gwirioneddol i'n hiechyd corfforol a meddyliol.
Dyma pam mae ein tudalen ‘Help wildlife at home (Helpu bywyd gwyllt gartref) yn llawn syniadau ac ysbrydoliaeth i helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw - boed hynny i helpu'r aderyn du sy'n canu wrth iddi wawrio ddod o hyd i le i nythu neu i ddarparu bwyd i'r draenog sy'n mynd heibio ar ei helfa yn ystod y nos.