Efallai bod y gweilch y pysgod wedi gadael ond mae mwy o fywyd gwyllt i'w weld...
Unwaith gwnaeth ein gwalch y pysgod ifanc newydd ni, sef 7M5 (neu ‘Gwion Bach’ fel mae sawl un yn cyfeirio ato’n hoffus) fagu plwc i fudo o'r diwedd, yn ôl ym mis Medi, trodd gwirfoddolwyr Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig eu sylw at y bywyd gwyllt arall yn Llyn Brenig. Ond i ddechrau, fe wnaethon ni benderfynu rhoi trip bach braf i ni’n hunain gydag ymweliad â Harbwr Poole ac fe gawson ni ddiwrnod cyffrous ar drip cwch wedi’i drefnu gan Gyfeillion Adar Harbwr Poole. Doedd Gweilch y Pysgod Harbwr Poole ddim wedi mudo eto ac roedden nhw wedi magu pedwar cyw i fod yn barod i hedfan y nyth. Roedd yn wych! Roedd eu gweld nhw i gyd yn hedfan o amgylch yr harbwr gyda chipolwg ar eryr y môr yn y pellter a miloedd o adar rhydio eraill o amgylch ymyl yr harbwr yn ddiwrnod cwbl arbennig.
Yn ôl i Lyn Brenig wedyn a throi ein sylw at y bywyd gwyllt lleol. Yn garedig iawn, fe adawodd Nick Kite o gwmni Dŵr Cymru i ni gael tri chwch i arolygu glan y llyn a phenrhyn y gweilch y pysgod o'r dŵr. Rydw i'n meddwl bod y record am rwyfo ar draws yr Iwerydd yn ddiogel!