Digwyddiad Cofio Elusen yn eich Ewyllys

Digwyddiad Cofio Elusen yn eich Ewyllys

Remember a Charity in your Will Week Event 2022 © NWWT

Wnaethoch chi golli ein digwyddiad Cofio Elusen yn eich Ewyllys? Mwy o wybodaeth am beth ddigwyddodd a pham nad yw'n rhy hwyr i chi ysgrifennu eich Ewyllys am ddim.

Roedd cacennau – cymaint o gacennau – Womble, teithiau cerdded heulog o amgylch ein gardd bywyd gwyllt fendigedig a chyngor cyfreithiol am ddim gan gyfreithwyr Swayne Johnson.

Diolch o galon i Orinoco y Womble a dreuliodd y diwrnod cyfan yn siglo ei arwydd er mawr lawenydd i lawer o yrwyr a oedd yn canu eu cyrn mewn gwerthfawrogiad. Diolch hefyd i Kaye o Swayne Johnson a roddodd ei hamser a’i chyngor cyfreithiol i bawb oedd ei eisiau.

Rydw i'n meddwl - yn wir yn gobeithio - bod pawb a fynychodd y diwrnod wedi cael amser da, wedi cael hwyl ar eu taith arbenigol o amgylch yr ardd (diolch Anna!), wedi mwynhau coffi a chacen ac, yn bwysicach na dim, wedi cael y cyngor cyfreithiol yr oedd arnynt ei angen. Os na allech chi fod yn bresennol, neu os yw darllen hwn wedi gwneud i chi ystyried gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys, neu yn wir os hoffech chi gael manylion am sut i fanteisio ar Ewyllys am ddim, dydi hi ddim yn rhy hwyr yn sicr! (edrychwch isod)

Helpwch amddiffyn y bywyd gwyllt a llefydd gwyllt lleol i genedlaethau’r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys

Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod.  Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.

Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.

Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - am ddim

Defnyddiwch eich cyfreithiwr eich hyn

Cysylltu â ni - yn gyfrinachol

Ein haddewidion ynghylch gwaddol