Rydyn ni wedi creu peiriant amser - o fath! Yn llawn syniadau i newid y blaned, efallai ei fod yn fwy ar y tu mewn nag y mae'n edrych ar y tu allan!
Fe wnaethon ni ofyn i aelodau a staff ysgrifennu eu haddewidion amgylcheddol, eu gobeithion a'u breuddwydion ar gyfer bywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru, eu pacio mewn capsiwl amser dur a'i gladdu yn un o'n gwarchodfeydd natur ni. Unwaith y bydd yn cael ei adfer - ar ein pen-blwydd ni’n 75 oed - bydd y wybodaeth y byddwn ni'n ei datgelu’n ddeunydd darllen hynod ddiddorol. A fydd yr hil ddynol wedi cyflawni unrhyw un o'r breuddwydion yma sy'n gysylltiedig â byd natur? A fydd y rhywogaethau sydd mewn perygl yn ffynnu? A fydd bodau dynol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil? A fydd plastig untro yn hen hanes?
Rydw i'n siŵr ein bod ni i gyd yn gobeithio hynny yn sicr - ond beth am i ni i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch hefyd. Beth am i ni wireddu'r breuddwydion yma a gwneud ein rhan i gefnogi bywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru. Fe allech chi wirfoddoli, ailgylchu, dod yn aelod o YNGC, trosglwyddo eich gardd i fywyd gwyllt neu gofio am YNGC yn eich Ewyllys. Mae gennym ni i gyd bŵer Arglwydd Amser i newid y blaned – fe allwn ni i gyd weithio i wneud dyfodol amgylcheddol gwell yn realiti.
Gyda diolch diffuant i'n cloddwyr gwadd ni a phawb ddaeth i’r digwyddiad, mae'r capsiwl amser wedi'i guddio bellach o dan y ddaear. Byddwn yn dadgloddio gobeithion a breuddwydion pawb yn 2038 ac yn gweld faint sydd wedi'u gwireddu!