Am Hyrwyddwyr Achub Cefnforoedd
Dechreuodd Hyrwyddwyr Achub Cefnfor ym mis Ebrill 2022 – gyda’r nod o roi cyfle i bobl ifanc Ynys Môn, 11-16 oed, wneud y canlynol:
• Dysgu sut i snorcelu ac archwilio byd tanddwr ein harfordir yn ddiogel
• Archwilio’r arfordir a'r môr, gan ddysgu sut i adnabod rhywogaethau
• Datblygu sgiliau cadwraeth forol ymarferol
• Chwarae rôl weithredol yn ein prosiect Morwellt: Achub Cefnfor
• Dysgu sut i gyfathrebu negeseuon cadwraeth allweddol i gymunedau lleol
Mae'r rhaglen yn rhedeg am flwyddyn ac rydym bellach wedi cael nifer o garfanau llwyddiannus o Hyrwyddwyr Achub Cefnfor. Unwaith y bydd y bobl ifanc yn gorffen y rhaglen, cânt eu cefnogi gyda'u taith ymlaen gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel y gallant barhau i ddysgu a datblygu fel cadwraethwyr ifanc.
Ocean Rescue Champions 2025 (https://www.youtube.com/watch?v=WsXyKF3KDL8)
Credit: Felix and Selina Copestake
Yr un sy'n arwain y rhaglen hon yw ein Swyddog Datblygu Ieuenctid, Charlotte Keen. Gallwch ddarllen ei blog am Wersyll Haf Morwellt 2026 yma:
Our inspiring Ocean Rescue Champions at Seagrass Summer Camp