Coal tit looking in a camera © Bob Coyle
Camerâu llwybr bywyd gwyllt 'Rhoi cynnig arni' (Digwyddiad i Ieuenctid)
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae camerâu llwybr bywyd gwyllt yn ddyfeisiau sy'n cael eu sbarduno gan symudiad sy’n ein helpu ni i fonitro a gwylio bywyd gwyllt heb darfu arno. Maen nhw’n ffordd wych o weld bywyd gwyllt yn agos! Mae cyfle i chi edrych ar ffilmiau o Lyn Brenig yma.
Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc gyfeillgar a helpu i greu hwn yn fudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan archwilio'r bywyd gwyllt yn Llyn Brenig ar yr un pryd. Cewch gyfle i helpu i osod a monitro'r camerâu llwybr.
Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddimGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruAr agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.