Dinas Dinlle beach © Nia Hâf Jones
Dinas Dinlle Beach clean © NWWT
Mae stormydd y gaeaf yn dod â llawer iawn o sbwriel i'n glannau gorllewinol ni felly beth am i ni weld faint allwn ni ei glirio!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch draw i'n helpu ni i gael gwared ar gymaint o sbwriel ag y gallwn ni o'n glannau! Byddwn hefyd yn chwilio am blisg wyau siarcod a darganfyddiadau morol gwych eraill ar y traeth.
Bydd yr holl offer ar wahân i fenig yn cael eu darparu.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.