Neidr y gwair
Neidr y gwair ydi ein neidr hiraf ni, ond peidiwch â phoeni os dewch chi o hyd i un yn y domen gompost - mae'n ddiniwed! Chwiliwch am y neidr wyrdd a melyn hardd yma mewn glaswelltiroedd a gwlybdiroedd hefyd.
Enw gwyddonol
Natrix helveticaPryd i'w gweld
Ebrill i HydfrefSpecies information
Ystadegau
Hyd: 90-150cmPwysau: 240g
Oes y gyfartaledd: 15 i 25 mlynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Ynghylch
Mae ein neidr fwyaf ni, neidr y gwair, yn arbennig o hoff o gynefinoedd gwlybdir, ond mae posib ei chanfod hefyd mewn glaswelltiroedd sych ac mewn gerddi, yn enwedig y rhai sydd â phwll gerllaw. Yn ystod yr haf, mae posib gweld nadroedd y gwair yn torheulo yn yr haul ger eu hoff byllau neu'n nofio yn y dŵr.Maen nhw’n hela amffibiaid, pysgod, mamaliaid bach ac adar. Mae'r benywod yn dodwy 10 i 40 o wyau mewn llystyfiant sy’n pydru, fel tomenni compost, gan ori arnynt nes eu bod yn deor yn gynnar yn yr Hydref. Fel pob ymlusgiad, mae nadroedd y gwair yn gaeafgysgu, o fis Hydref i fis Ebrill fel arfer.
Nodyn
Mae poblogaeth Prydain o nadroedd y gwair yn perthyn i'r is-rywogaeth benodol natrix natrix helvetica, ond cynigiodd ymchwil newydd a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017 y dylid ei dyrchafu i statws rhywogaeth lawn, gyda'r enw neidr y gwair resog, natrix helvetica.