Madfall
Cadwch lygad am fadfall yn torheulo yn yr haul cynnes wrth i chi grwydro o amgylch rhostiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ddigon ffodus i weld un yn eich gardd hefyd!
Enw gwyddonol
Zootoca viviparaPryd i'w gweld
Mawrth i HydrefSpecies information
Ystadegau
Hyd: 10 i 15cmOes ar gyfartaledd: 5 i 6 mlynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Cynefinoedd
Ynghylch
Y fadfall yw’r ymlusgiad mwyaf cyffredin ac eang ei ddosbarthiad yn y DU; dyma'r unig ymlusgiad sy'n frodorol i Iwerddon. Mae i’w gweld ar draws llawer o gynefinoedd, gan gynnwys rhostir, rhos, coetir a glaswelltir, lle mae posib ei gweld yn torheulo mewn llecynnau heulog.Yn cael ei hadnabod hefyd fel y 'fadfall fywesgorol', mae'r fadfall yn anarferol ymhlith ymlusgiaid gan ei bod yn deor ei hwyau y tu mewn i'w chorff ac yn 'rhoi genedigaeth' i epil byw yn hytrach na dodwy wyau. Mae’r oedolion yn dod allan o aeafgwsg yn y gwanwyn, gan baru ym misoedd Ebrill a Mai, a chynhyrchu tri i un ar ddeg o rai bach ym mis Gorffennaf.