Llyffant dafadennog
Er gwaethaf ei ddafadennau a'i gysylltiadau hynafol â gwrachod, mae'r llyffant dafadennog yn ffrind i arddwyr, gan sugno gwlithod a malwod. Mae'n enwog am fudo ar raddfa fawr i'w byllau magu.
Enw gwyddonol
Bufo bufoPryd i'w gweld
Chwefror i HydrefSpecies information
Ystadegau
Chwefror i HydrefHyd: 8 i 13cm
Pwysau: hyd at 80g
Oes ar gyfartaledd: hyd at 4 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Ynghylch
Mae llyffantod dafadennog yn amffibiaid, gan fagu mewn pyllau yn ystod y gwanwyn a threulio llawer o weddill y flwyddyn yn bwydo mewn coetir, gerddi, gwrychoedd a glaswelltir twmpathog. Maen nhw’n gaeafgysgu, yn aml o dan bentyrrau o foncyffion, cerrig neu hyd yn oed mewn hen botiau blodau!Mae llyffantod dafadennog yn enwog am eu mudo torfol yn ôl i'w pyllau magu ar nosweithiau cynnes, llaith cyntaf y flwyddyn, tua Dydd Gŵyl San Ffolant yn aml. Mae llyffantod dafadennog yn tueddu i fagu mewn pyllau mwy a dyfnach na brogaod. Mae penbyliaid llyffantod dafadennog yn cynnwys tocsinau sy'n eu gwneud yn annymunol i ysglyfaethwyr eu bwyta, gan alluogi iddyn nhw oroesi mewn pyllau dwfn sy'n cynnwys pysgod, a fyddai'n bwyta penbyliaid brogaod. Mae llyffantod dafadennog llawn dwf yn cynnwys y tocsinau yma hefyd, wedi'u storio yn chwarennau eu croen.
Mae llyffantod dafadennog yn bwydo ar wlithod, malwod ac infertebrata eraill yn bennaf, ond rydyn ni’n gwybod am lyffantod dafadennog mwy sydd wedi bwyta nadroedd defaid a nadroedd y gwair bach, a llygod yr ŷd hyd yn oed.