Coedwig law dymherus

A scene from the temperate rainforest in Wales, with mossy oaks rising from a sea of ferns

Temperate rainforest © Ben Porter

A stream flowing through a rocky gorge in a Scottish rainforest, surrounded by mosses, trees, and lichen-covered rocks

Temperate rainforest © Peter Cairns/2020VISION

Pied flycatcher male

Pied flycatcher ©Richard Steel/2020VISION

Coedwig law dymherus

Ar un adeg roedd coedwig law dymherus ffrwythlon yn gorchuddio ardaloedd helaeth o Ynysoedd Prydain, ond dim ond darnau sydd ar ôl erbyn hyn, yn y gorllewin. Gelwir yr ardaloedd hyn o goedwig law yn goetir Atlantaidd neu’n goedwig law Geltaidd hefyd.

Beth yw o?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â choedwigoedd glaw trofannol, ond gall coedwigoedd glaw dyfu mewn hinsoddau oerach hefyd - gelwir y rhain yn goedwigoedd glaw tymherus. Mae hwn yn gynefin prin yn fyd-eang, sydd i’w gael yn Ynysoedd Prydain yn ogystal ag ychydig o wledydd eraill gan gynnwys Japan, Seland Newydd, Canada a Chile. Gelwir coedwig law dymherus Ynysoedd Prydain yn goetir Atlantaidd neu’n goedwig law Geltaidd hefyd.

Mae coedwigoedd glaw tymherus yn llefydd gwlyb, rhyfeddol sy'n llawn bywyd. Mae'r coed sy'n tyfu yno’n cynnwys derw mes di-goes, bedw, criafol, celyn, gwerni, helyg a chyll. Yn aml mae ganddyn nhw lennyrch agored, neu afonydd sy’n torri drwy geunentydd creigiog. Yr hyn sydd wir yn gwneud coedwig law dymherus yn arbennig yw'r tapestri cyfoethog o fywyd sy'n tyfu ar ac o amgylch y coed. Mae rhedyn, mwsoglau, llysiau'r afu a chennau’n ymddangos fel pe baen nhw’n gorchuddio pob arwyneb, o'r ddaear i feini mawr, creigiau, a hyd yn oed y boncyffion a'r canghennau eu hunain.

Mae coedwigoedd glaw tymherus yn storfeydd carbon rhagorol hefyd, o'u priddoedd cyfoethog i'r coed a'r planhigion sy'n tyfu ynddyn nhw, sy'n cloi’r carbon wrth iddyn nhw dyfu. Gyda manteision i fywyd gwyllt a charbon, mae'n hanfodol bod y cynefin arbennig yma’n cael ei warchod a'i adfer i'n helpu ni i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Pam fod o fel hyn?

Mae ein coedwigoedd glaw tymherus ni’n tyfu mewn ardaloedd sydd wedi'u dylanwadu'n gryf gan y môr. Mae'r hinsawdd gefnforol yn cynhyrchu lefel uchel o leithder, glawiad rheolaidd, a thymereddau mwyn sy'n aros yn weddol sefydlog drwy gydol y flwyddyn. Yr amodau perffaith ar gyfer planhigion a chennau hoff o leithder y mae coedwigoedd glaw tymherus yn adnabyddus am roi cartref iddyn nhw! Mae llawer o'r cennau a'r planhigion glynu’n dibynnu hefyd ar aer cymharol rydd o lygredd. Ar lawr y goedwig, mae'r tymereddau mwyn yn golygu bod deunydd planhigion sydd wedi cwympo ac wedi marw yn dadelfennu'n araf gan greu'r pridd sy'n llawn carbon.

Dosbarthiad yn y DU

Ar un adeg byddai coedwig law wedi gorchuddio ardaloedd mawr o Gymru, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, gorllewin yr Alban, a gogledd orllewin a de orllewin Lloegr. Ond mae'r coedwigoedd glaw yma wedi cael eu dinistrio dros filoedd o flynyddoedd oherwydd torri coed ar gyfer pren, a chlirio tir ar gyfer ffermio a datblygu. Bellach, dim ond darnau ynysig sydd ar ôl, gan gynnwys yr ardaloedd yma:

  • Ceredigion, Powys a Gwynedd yng Nghymru
  • Yr Ucheldiroedd ac Argyll yn yr Alban
  • Ardal y Llynnoedd a Dartmoor yn Lloegr
  • Dyffrynnoedd rhewlifol Antrim yng Ngogledd Iwerddon

Beth i edrych am

Mae amodau llaith coedwig law dymherus yn ddelfrydol ar gyfer ffyngau, cennau, mwsoglau ac amrywiaeth o blanhigion eraill. Maen nhw’n gorchuddio'r coed, y creigiau a'r meini mawr. Mae rhai’n ffurfio cramen liwgar, ac eraill yn sgleiniog ac yn debyg i jeli. Cadwch lygad am labed yr ysgyfaint, cen mawr a deiliog sydd angen aer glân iawn i oroesi. Mae'r llecynnau arbennig yma’n gartref i rywogaethau sy'n brin yn fyd-eang hyd yn oed, fel y ffwng menig y cyll, sydd ond yn tyfu ar hen goed cyll ac yn edrych fel bwndel rwber o fysedd oren.

Mae'r casgliad cyfoethog o bryfed yn denu adar mudol, sy'n hedfan o Affrica i dreulio'r haf yn nythu yma. Efallai y gwelwch chi’r gwybedog brith a’r tingoch yn archwilio’r cilfachau yn y coed hynafol, neu glywed telor y coed yn canu ei alaw hyfryd — sy'n swnio fel darn arian yn troelli'n gyflym. Mae coedwigoedd glaw tymherus yn gartref i famaliaid hefyd, fel y carlwm, ac, mewn rhai mannau, y wiwer goch a’r bele.

Cadwraeth

Mae'r darnau sy'n weddill o goedwig law dymherus yn Ynysoedd Prydain dan fygythiad, gan gynnwys llygredd aer a rhywogaethau ymledol fel rhododendron, sy'n cael y gorau ar rywogaethau brodorol ac yn eu tagu. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gydag eraill i adfer ac ehangu ein coedwigoedd glaw tymherus.