Sundew ©Mark Hamblin/2020VISION
©Ben Hall/2020VISION
Gwlithlys
Mae ffordd o fyw gigysol y gwlithlys yn gwneud y planhigyn rhostir yma’n rhywogaeth ryfeddol. Mae gan y dail crwn dendrilau gludiog, wedi'u gorchuddio â 'gwlith', sy'n denu pryfed diniwed yn ysglyfaeth.
Enw gwyddonol
Drosera rotundifoliaPryd i'w gweld
Mehefin i AwstSpecies information
Categori
Ystadegau
Uchder: hyd at 20cmStatws cadwraethol
Cyffredin.
Cynefinoedd
Ynghylch
Mae'r gwlithlys yn blanhigyn rhyfedd a hardd y mae posib dod o hyd iddo yng nghanol y mwsoglau sffagnwm soeglyd ar lannau pyllau corsiog, ar rosydd gwlyb a gweunydd mawnog. Planhigyn bach iawn a main ac mae'n unigryw oherwydd ei ddeiet. Ar flaen y tendrilau tebyg i flew ar bob deilen gochlyd mae diferion disglair sy'n denu pryfed sy'n mynd heibio. Ond mae'r 'gwlith' yma’n ludiog iawn, gan ddal y pryf; mae tendrilau'r gwlithlys yn canfod presenoldeb ei ysglyfaeth sydd wedi'i ddal ac yn cyrlio i mewn i'w amgylchynu. Yn y pen draw, mae'r ddeilen gyfan yn lapio o amgylch y pryf sy'n cael ei dreulio. Nid yw'r cynefinoedd asidig y mae'r gwlithlys yn byw ynddyn nhw’n darparu digon o faetholion, felly mae wedi esblygu'r ffordd o fyw gigysol hon i ategu ei ddeiet.Sut i'w hadnabod
Mae dail cochwyrdd y gwlithlys wedi'u gorchuddio â 'blew' coch ac wedi'u trefnu wrth fôn y planhigyn mewn rhoséd. Mae'r blodau gwyn neu binc yn ymddangos yn yr haf ar ben coesynnau coch, di-flew. Mae posib dweud y gwahaniaeth rhwng y gwlithlys a’r gwlithlys hirddail oddi wrth siâp mwy crwn ei ddail.Dosbarthiad
Cyffredin yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. I'w weld yn Lloegr, ond yn y De orllewin a'r Gogledd orllewin yn bennaf.Roeddech chi yn gwybod?
Ar un adeg roedd 'gwlith' y gwlithlys yn sail i boteli gwrth-heneiddio gan fod pobl yn credu ei fod yn ffynhonnell o ieuenctid a hoenusrwydd - y gwlithlys ei hun yn disgleirio ac yn llaith yn yr haul mwyaf tanbaid hyd yn oed. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y planhigyn fel swyn cariad hefyd oherwydd ei bŵer i ddenu a thrapio pryfed diymadferth.Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio i adfer a gwarchod ein rhostiroedd drwy hyrwyddo rheolaeth dda, clirio prysgwydd sy'n ymledu a gweithredu trefn bori fuddiol. Mae'r gwaith yma’n hanfodol os yw'r cynefinoedd hyn am oroesi.