Morlo cyffredin

Common Seal

Common Seal ©Jamie Hall

Morlo cyffredin

Y lleiaf o'n dwy rywogaeth o forloi yn y DU, mae’r morlo cyffredin yn cael ei adnabod hefyd fel morlo’r harbwr. Er ei fod yn cael ei alw'n "Gyffredin", mae mewn gwirionedd yn llai cyffredin na’r morlo llwyd!

Enw gwyddonol

Phoca vitulina

Pryd i'w gweld

Ionawr i Ragfyr

Species information

Ystadegau

Hyd: hyd at 2m
Pwysau: 65 i 150kg
Oes ar Gyfartaledd: 20 i 35 mlynedd

Statws cadwraethol

Wedi'i warchod ym Mhrydain o dan Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970, ac wedi'i ddosbarthu fel Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Hefyd wedi'i warchod o dan Orchymyn Bywyd Gwyllt (Gogledd Iwerddon), 1985.

Cynefinoedd

Ynghylch

Pan nad ydyn nhw yn y môr, mae morloi cyffredin i’w gweld o amgylch glannau cysgodol ac aberoedd, lle maen nhw’n llusgo allan ar draethellau a thraethau. Pan maen nhw allan o'r dŵr, maen nhw weithiau'n dal eu corff mewn ystum banana crwm, gyda'u pen a'u cynffon yn yr awyr ar yr un pryd. Fel morloi llwyd, maen nhw’n bwydo ar bysgod, ond hefyd yn bwyta stifflogod, gwichiaid moch, crancod a chregyn gleision. Mae’r morloi cyffredin bach yn cael eu geni yn ystod yr haf ac yn gallu nofio yn ddim ond ychydig oriau oed!

Sut i'w hadnabod

Mae posib dweud y gwahaniaeth rhwng y morlo cyffredin a’r morlo llwyd oddi wrth ei faint llai a'i ben byrrach, gyda thalcen mwy ceugrwm. Mae gan forloi cyffredin ffroenau siâp V. Maen nhw’n amrywiol iawn o ran lliw, o felyn i ddu, ond yn gyffredinol yn llwyd gyda smotiau tywyll.

Dosbarthiad

Maen nhw i’w gweld o amgylch arfordiroedd yr Alban, Gogledd Iwerddon a Teesmouth a dwyrain Lloegr.

Roeddech chi yn gwybod?

Rydym yn gwybod am forloi cyffredin sydd wedi nofio i fyny afonydd i chwilio am eu pryd bwyd nesaf ac maen nhw wedi cael eu gweld dros gan milltir i fyny afon hyd yn oed!