Britheg y gors

Marsh fritillary

Marsh fritillary © Ross Hoddinott/2020VISION

marsh fritillary

Ross Hoddinott/2020VISION

Marsh fritillary caterpillar

Marsh fritillary caterpillar © Vaughn Matthews

Britheg y gors

Y glöyn byw hardd yma yw un o’n rhai prinnaf ni, sydd wedi’i gyfyngu’n bennaf bellach i rannau gorllewinol y DU.

Enw gwyddonol

Euphydryas aurinia

Pryd i'w gweld

Yn hedfan o fis Mai i fis Gorffennaf

Species information

Ystadegau

Lled yr adenydd: 30-50mm

Statws cadwraethol

Wedi’i restru fel rhywogaeth Adran 41 o brif bwysigrwydd o dan Ddeddf NERC yn Lloegr Statws CGB y DU: Rhywogaeth Flaenoriaeth
Blaenoriaeth Cadwraeth Glöynnod Byw: Uchel
Statws Ewropeaidd: Bregus

Cynefinoedd

Ynghylch

Fel mae'r enw'n awgrymu, mae britheg y gors i'w chanfod yn aml mewn mannau gwlyb a chorsiog, fel dolydd llaith, ond mae i'w gweld hefyd mewn amrywiaeth o gynefinoedd eraill lle mae digon o haul a thamaid y cythraul i'r lindys fwydo arno. Tamaid y cythraul yw'r planhigyn bwyd mae’n ei ffafrio, ond weithiau bydd yn bwyta clafrllys y maes neu'r clafrllys bach.

Mae'r glöynnod byw yn eu llawn dwf yn dechrau ymddangos ym mis Mai fel arfer ac mae posib eu gweld yn hedfan tan yr haf. Bydd y gwrywod yn sefydlu tiriogaethau bychain, yn clwydo ar goesynnau blodau neu laswellt ac yn rhuthro i fyny i gwrdd ag unrhyw löynnod byw sy'n mynd heibio yn y gobaith o ddod o hyd i fenyw. Unwaith y bydd benyw wedi paru, bydd yn chwilio am blanhigyn bwyd addas ac yn dodwy clwstwr mawr o wyau ar ochr isaf deilen - gall y clystyrau gynnwys mwy na 300 o wyau!

Mae'r wyau'n deor ar ôl ychydig wythnosau ac mae'r lindys bach yn troelli gwe sidan, gan rwymo dail y planhigyn bwyd gyda’i gilydd. Maen nhw’n byw yn gymunedol yn y gweoedd yma, gan fwydo ar y dail. Ar ddiwedd yr haf, maen nhw'n gwneud gwe gymunedol newydd i dreulio'r gaeaf ynddi. Byddant yn dod allan o'r we tua mis Mawrth i ddal ati i fwydo, cyn chwileru’n grysalis lliwgar sy'n hongian o blanhigyn.

Britheg y gors yw un o’n glöynnod byw ni sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf, ar ôl dioddef dirywiad difrifol yn ystod y degawdau diwethaf yn y DU ac yn ehangach yn Ewrop. Gall poblogaethau lleol amrywio’n fawr o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar y tywydd, y bwyd sydd ar gael a nifer y gwenyn meirch parasitig sy’n defnyddio’r lindys fel lletywr i’w hepil eu hunain.

Sut i'w hadnabod

Glöyn byw llachar gyda mosäig o farciau oren, melyn a brown ar arwyneb uchaf yr adenydd blaen ac ôl, sy'n ffurfio rhesi amlwg o'r un lliw. Mae rhes amlwg o smotiau duon bach tuag at ymyl allanol pob adain ôl.

Dosbarthiad

Wedi’i gyfyngu bellach i orllewin yr Alban, Gogledd Iwerddon, de a gorllewin Cymru, a de orllewin Lloegr, gydag ychydig o boblogaethau gwasgaredig mewn mannau eraill.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r glöyn byw hardd yma’n cael ei adnabod hefyd fel y fritheg seimllyd, oherwydd y sglein sy'n datblygu ar yr adenydd wrth iddyn nhw wisgo.