©Peter Cairns/2020
©Peter Cairns/2020VISION
©Peter Cairns/2020VISION
Gwalch y pysgod
Un ffordd wych o fod yn agos at y gwalch y pysgod godidog ydi drwy un o'r nifer o gamerâu nyth sydd wedi'u gosod yn y llecynnau lle mae'n magu: yr Alban, Cumbria, Cymru a Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Enw gwyddonol
Pandion haliaetusPryd i'w gweld
Mawrth i MediSpecies information
Categori
Ystadegau
Hyd: 56cmLled yr adenydd: 1.6m
Pwysau: 1.5kg
Oes ar gyfartaledd: 9 mlynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i ddosbarthu yn y DU fel Ambr o dan Adar o Bryder Cadwraeth 5: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2021). Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.
Cynefinoedd
Ynghylch
Mae gwalch y pysgod yn gyfarwydd iawn ag enwogrwydd a sylw - mae ei hynt a’i helynt wedi cael eu dilyn yn agos gan gamerâu nyth yn y lleoliadau lle mae'n magu: Speyside a Perth yn yr Alban, Kielder, Cumbria a Dwyrain Canolbarth Lloegr yn Lloegr, a Dyffryn Dyfi yng Nghymru. Yn aderyn mudol, mae'n bresennol yn y DU yn yr haf. Mae gwalch y pysgod yn bwyta pysgod, gan eu dal mewn ffordd drawiadol iawn drwy blymio i lawr i lynnoedd a lochs, ymestyn ei grafangau a'u cipio allan o'r dŵr yn rhwydd.Sut i'w hadnabod
Mae gwalch y pysgod yn aderyn brown a gwyn ac mae posib ei gamgymryd am wylan o bell. Mae gwalch y pysgod yn aderyn ysglyfaethus mawr gyda rhannau uchaf brown tywyll a rhannau isaf gwyn cyferbyniol sy’n gallu ymddangos yn frith mewn benywod. Mae ei ben yn wyn gyda brown tywyll drwy ei lygaid. Mae ei adenydd wrth hedfan yn dangos bariau cryf a 'garddyrnau' brown tywyll, onglog nodedig.Dosbarthiad
Mae’n nythu mewn rhannau o'r Alban, Cumbria, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Chymru. Mae posib ei weld hefyd mewn cyrff dŵr mawr ledled y wlad wrth iddo fudo.Roeddech chi yn gwybod?
Mae gweilch y pysgod yn mudo i Orllewin Affrica yn ystod y gaeaf; mae tracio lloeren wedi dangos eu bod yn hedfan hyd at 430 km mewn dim ond un diwrnod. Mae'n cymryd tua 20 diwrnod o hedfan iddyn nhw gwblhau'r siwrnai, ond, yn yr hydref, mae’r adar yn stopio i gael mwy o danwydd mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr.
ospreys © David Wittrick
Ewch ar ymweliad i Brosiect Gweilch y Pysgod y Brenig
Cyfle i ddysgu popeth am weilch y pysgod yn arddangosfa'r gweilch y pysgod, dod draw i'r wylfan, cwrdd â'r arbenigwyr a gweld y nyth drwy ein sbienddrych a'n telesgopau. Neu fe allech chi archebu'r guddfan ar gyfer eich cynulleidfa bersonol eich hun a sesiwn tynnu lluniau gyda'r adar godidog yma.