Barn owl ©Danny Green, 2020Vision
©Andy Rouse/2020VISION
©Jon Hawkins Surrey Hills Photography
Tylluan wen
Y dylluan wen hardd ydi ein tylluan fwyaf poblogaidd ni efallai. Gyda'i hwyneb siâp calon nodedig, ei phlu gwyn pur a’i hedfaniad tawel ysbrydol, mae'n hawdd ei hadnabod. Cadwch lygad amdani'n hedfan yn isel dros gaeau a gwrychoedd gyda'r wawr ac yn y gwyll.
Enw gwyddonol
Tyto albaPryd i'w gweld
Ionawr i RagfyrSpecies information
Categori
Ystadegau
Hyd: 33 i 39cmLled yr adenydd: 89cm
Pwysau: 300g
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i ddosbarthu yn y DU fel Gwyrdd o dan Adar o Bryder Cadwraeth 5: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2021). Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.
Ynghylch
Efallai mai hon yw ein tylluan fwyaf cyfarwydd. Fel arfer, gwelir y dylluan wen gyda'r wawr neu yn y gwyll, ond weithiau bydd yn hela yn ystod y dydd. Mae posib ei gweld yn 'cribinio' dros dir fferm a glaswelltir, yn hedfan yn ôl ac ymlaen wrth iddi chwilio am ei phryd bwyd nesaf o famal bach. Fodd bynnag, mae wedi addasu'n berffaith i hela gyda manwl gywirdeb angheuol yn nhywyllwch y nos: ynghyd â'i hedfaniad cyfrwys a thawel, mae ei hwyneb siâp calon yn cyfeirio synau amledd uchel, gan ei galluogi i ddod o hyd i lygod bach a mawr yn y llystyfiant.Sut i'w hadnabod
Mae gan y dylluan wen gefn llwyd, arian a llwydfelyn brith ac ochr isaf wen, bur. Mae ganddi wyneb gwyn, siâp calon nodedig a llygaid duon.Dosbarthiad
Yn eang ei dosbarthiad, ond yn absennol o Ucheldiroedd yr Alban ac o dan fygythiad yng Ngogledd Iwerddon.Roeddech chi yn gwybod?
Ar hyd yr oesoedd, mae tylluanod gwynion wedi cael eu hadnabod oddi wrth lawer o lysenwau gwahanol, fel 'tylluan ysbryd', 'tylluan eglwys' a 'thylluan sgrech'. Ond mae'r enw 'tylluan y cythraul' yn arbennig yn dangos sut roedd yn cael ei hystyried gan rai poblogaethau gwledig – rhywbeth sydd ddim yn anodd ei ddeall pan glywch chi ei sgrechiadau treiddgar a'i chri sy’n hisian.Gwyliwch
Barn Owl by Russell Savory (https://vimeo.com/442049233)
Barn Owl by Russell Savory
Barn owl sponsorship with cuddly toy © NWWT
Noddwch tylluan wen
Mae pob pryniant yn cefnogi ein gwaith ni i warchod ac adfer byd natur a bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru