©Joy Russell
Madfall ddŵr gribog
Gyda'i chrib amlwg, tonnog, mae'r fadfall ddŵr gribog, sy’n cael ei galw hefyd yn 'fadfall ddŵr ddafadennog', yn edrych fel deinosor bach! Mae'r rhywogaeth warchodedig yma’n ffafrio pyllau glân yn ystod y tymor magu.
Enw gwyddonol
Triturus cristatusPryd i'w gweld
Mawrth i HydrefSpecies information
Categori
Ystadegau
Hyd: hyd at 17cmOes ar gyfartaledd: 6-15 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Wedi'i rhestru fel Rhywogaeth Warchodedig Ewropeaidd o dan Atodiad IV y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd.
Cynefinoedd
Ynghylch
Amffibiaid ydi madfallod dŵr, yn magu mewn pyllau yn ystod y gwanwyn ac yn treulio'r rhan fwyaf o weddill y flwyddyn yn bwydo ar infertebrata mewn coetiroedd, gwrychoedd, corsydd a glaswelltir twmpathog. Maen nhw’n gaeafgysgu o dan y ddaear, ymhlith gwreiddiau coed ac mewn hen waliau. Mae poblogaethau'r fadfall ddŵr gribog yn y DU o bwys rhyngwladol.Sut i'w hadnabod
Mae ein madfall ddŵr fwyaf, y fadfall ddŵr gribog, yn ddu o ran lliw bron, gydag ochrau smotiog a bol oren trawiadol. Mae ganddi groen dafadennog ac mae gan y gwrywod grib hir, tonnog ar hyd y corff a'r gynffon yn ystod y tymor magu.Dosbarthiad
Eang ei dosbarthiad ar draws iseldir Cymru a Lloegr.Roeddech chi yn gwybod?
Mae posib adnabod madfallod dŵr cribog unigol drwy edrych ar eu boliau, gan fod y patrwm o smotiau duon sydd gan bob un ohonynt mor unigryw ag olion bysedd. Yn ogystal â'u cribau nodedig, mae’r gwrywod yn cyflwyno arddangosfa garu drawiadol i ddenu'r benywod: maen nhw’n sefyll ar eu coesau blaen, yn ffurfio bwa gyda’u cefn ac yn chwifio eu cynffon o gwmpas fel pe baen nhw’n dawnsio.
Sponsor a great crested newt © NWWT
Noddwch madfall ddŵr gribog
Mae pob pryniant yn cefnogi ein gwaith ni i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru.